Cyfranogiad yn Wrecsam

Beth yw cyfranogiad ieuenctid?

Ymgynghoriadau

Cyfarfod â’r Tîm Cyfranogiad

Beth ydym yn ei wneud

Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam


BETH YW CYFRANOGIAD IEUENCTID?

Cyfranogiad Ieuenctid yw cynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau am bethau sy’n effeithio arnynt.  Os bydd effaith penderfyniad yn effeithio arnoch chi, mae’n deg eich bod yn cael cyfle i leisio eich barn a bod eich barn yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau.

Pam fod Cyfranogiad Ieuenctid yn bwysig?

Nid yw’n bosibl i unrhyw un wybod beth ydych chi’n ei feddwl, heb ofyn i chi.

Mae gennych chi hawl cyfreithiol i leisio eich barn, dyheadau a theimladau ar bob mater sy’n effeithio arnoch chi, a bod eich safbwyntiau’n cael eu hystyried a’u cymryd o ddifri (Erthygl 12, UNCRC) CCUHP). I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, cliciwch yma.

Mae ymgynghori â phobl ifanc ar faterion yn rhoi’r cyfle gorau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud penderfyniad sy’n fuddiol ac ar sail gwybodaeth. 

Gall pobl ifanc ac oedolion ddysgu o’i gilydd drwy rannu gwybodaeth a sgiliau.

Mae cael dylanwad ar y penderfyniadau yn eich bywyd yn gallu rhoi ymdeimlad o rym, gwella hunan-barch, a hyrwyddo datblygiad unigol drwy greu newid cadarnhaol.

Gall cyfranogiad ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc a’u cymunedau.

Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae’r saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol yng Nghymru’n cael eu defnyddio gan y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i sicrhau bod cyfranogiad ieuenctid yn cael ei ddatblygu’n gywir. Maent yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o’r broses o ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.

1.	Gwybodaeth
2.	Eich dewis chi ydyw
3.	Dim gwahaniaethu
4.	Parch
5.	Fe gewch chi rywbeth o wneud
6.	Adborth
7.	Gweithio’n well i chi

O dan y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol mae’r Siarter Cenedlaethol, cyflawnodd Cyngor Wrecsam y Siarter yn 2021.  Ar ôl cyflawni’r Siarter, gall y gwasanaethau weithio tuag at gyflawni Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol llawn ar gyfer Cyfranogiad (wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru), ac mae Wrecsam wrthi’n cyflawni hyn yn awr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yng Nghymru.


YMGYNGHORIADAU

Yn fyw

Dyma eich cyfle i ddweud eich dweud! Yma mae modd canfod ymgynghoriadau sy’n gofyn am safbwyntiau pobl ifanc.

Gorffennol

Yma mae canlyniadau unrhyw ymgynghoriadau a hyrwyddwyd yn ddiweddar. 


CYFARFOD Â’R TÎM CYFRANOGIAD

Tîm Cyfranogiad Ieuenctid Wrecsam

CAROLINE

Cydlynydd Cyfranogiad

TRICIA

Cydlynydd Cyfranogiad

JADE

Gweithiwr Cyfranogiad Ieuenctid

KAREN

Gweithiwr Ieuenctid / Ymarferydd Teulu


Beth ydym yn ei wneud

Mae’r Tîm Cyfranogiad yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam.  Rydym yn goruchwylio, cynllunio, trefnu a hwyluso Senedd yr Ifanc, gan roi cyfleoedd i bobl ifanc gael llais ar faterion sy’n bwysig iddynt.  Rydym hefyd yn darparu cyfleoedd cyfranogi i bobl ifanc yn Wrecsam.

Hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc

  • Hyfforddiant Gwneud Penderfyniadau
  • Technegau Cyfweliad
  • Hawliau Plant – Hyfforddiant CCUHP a Chyfranogiad
  • Hyfforddiant Cyngor yr Ysgol
  • Deall lefelau democratiaeth

Hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

  • Hyfforddiant CCUHP a Chyfranogiad 

Arall

Grantiau Cefnogi ar gyfer grwpiau ieuenctid (bwrdd penderfynu dan arweiniad pobl ifanc)

Gwirfoddolwyr Ysbrydoli Wrecsam:  Cynllun Gwobrwyo

Sgowtiaid a Geidiaid: Her Hawliau

Sesiynau Gwybodaeth ar gyfer Grwpiau Ieuenctid


CYFRANOGIAD AR DRAWS GWASANAETH IEUENCTID A CHWARAE WRECSAM

Yn ogystal â’r Tîm Cyfranogiad a Senedd yr Ifanc, mae gennym y timau canlynol sy’n gyfrifol am gyfranogiad plant a phobl ifanc yn Wrecsam: 

Cyngor Gofal Pobl Ifanc Wrecsam

Mae Cyngor Gofal Pobl Ifanc yn casglu safbwyntiau holl blant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal Wrecsam ac yn sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu safbwyntiau nhw ac yn gweithredu arnynt trwy weithio gyda staff yr Adran Atal a Gofal Cymdeithasol i gefnogi gwelliannau i fywydau plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal. Mae wyth o bobl ifanc rhwng 11-20 oed ac o gefndiroedd gwahanol yn y system ofal yn ffurfio Cyngor Gofal Pobl Ifanc. Cynhelir cyfarfodydd bob mis.

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol a all fod â phrofiad cyfyngedig o gyfranogi a disgwyliadau isel ynghylch eu gallu i ddylanwadu pethau a chael llais. Maent yn gweithio’n adeiladol ac yn caniatáu i’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw i gael cyfle i ymgysylltu â’u hapwyntiadau, gan roi llais iddynt ac ystyried eu safbwyntiau er mwyn siapio’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid y maent yn ei dderbyn.

Tîm Datblygu Chwarae CBSW

Mae’r Tîm Datblygu Chwarae yn arwain gwaith Cyngor Wrecsam o ran Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Llywodraeth Cymru sydd yn gofyn i bob awdurdod lleol weithio tuag at ddiogelu digon o amser a lle ar gyfer chwarae plant. Rhan hanfodol o’r broses hon yw cynnwys plant i ymchwilio eu cyfleoedd lleol i chwarae a datblygu ymatebion i ddiogelu a gwella’r rhain pan fo angen. Wrth wneud hyn mae’r Tîm Datblygu Chwarae wedi datblygu gwybodaeth a thystiolaeth sylweddol o ran sut y gall gofodau, cyfleusterau a gwasanaethau gael eu dylunio i gefnogi ymddygiad chwareus plant a phobl ifanc.

Ysgolion Iach Wrecsam

Mae tîm Ysgolion Iach Wrecsam yn cefnogi pob ysgol yn Wrecsam i weithredu Fframwaith Cynllun Ysgolion Iach Llywodraeth Cymru. O fewn y fframwaith, mae cyfranogiad disgyblion yn thema drawsbynciol y mae’n rhaid i ysgolion ddangos ar draws holl ardaloedd iechyd. Fel rhan o waith y timau, maent yn cefnogi ysgolion gyda datblygu polisïau wedi canolbwyntio ar blant a phobl ifanc ac yn sicrhau bod llais y disgybl yn cael ei ystyried ar draws pob maes dysgu. Hefyd, mae’r tîm yn cefnogi holl ysgolion cynradd i ddarparu Cyngor yr Ysgol effeithiol ac o safon yn unol â chanllaw Llywodraeth Cymru.


Os hoffech fwy o wybodaeth am y pwnc hwn os gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad dros y ffôn (01978 398374), e-bost, neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham