Hawliau Plant a Phobl Ifanc

AR Y DUDALEN HON

Hawliau Dynol

Beth yw Hawliau Plant?

Eisiau gwybod mwy?


Hawliau Dynol

Hawliau Dynol ydi’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol sy’n perthyn i bawb yn y byd, o’r crud i’r bedd. Mae gen ti hawliau dim ots o ble rwyt ti’n dod, beth wyt ti’n ei gredu neu sut wyt ti’n dewis byw dy fywyd.  Mae Hawliau Dynol yn werthoedd sy’n cadw’r gymdeithas yn deg, gyfiawn a chyfartal.  Maent ar waith i amddiffyn plant, yr henoed, a phawb yn y canol. 

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu mwy neu cliciwch ar y ddolen am restr lawn o Hawliau Dynol.


Beth yw Hawliau Plant?

Mae gan bawb Hawliau Dynol, ond mae gan blant a phobl ifanc dan 18 oed hawliau ychwanegol i’w helpu i gyrraedd eu llawn botensial a byw bywyd llawn a hapus. Enw’r ddogfen sy’n amlinellu’r hawliau hyn yw ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’ (CCUHP).

Mae CCUHP yn cynnwys 42 o hawliau y mae gan unrhyw unigolyn dan 18 oed yr hawl iddynt. Mae hefyd yn cynnwys 12 erthygl sy’n egluro sut y mae’n rhaid i oedolion a llywodraethau weithio gyda’i gilydd i gefnogi eich hawliau. Yr UDA yw’r unig wlad nad yw eu llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi hawliau plant.  

Mae pedair erthygl allweddol sy’n ffurfio sail CCUHP. Sef:

Erthygl 2: cael eu diogelu rhag gwahaniaethu

Erthygl 3: bod eu lles pennaf yn brif flaenoriaeth

Erthygl 6: byw a chyrraedd eu llawn botensial

Erthygl 12: cael dweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt

Beth allaf ei wneud os nad yw fy hawliau yn cael eu bodloni? 

Mae’r hawliau sydd gennych yn bwysig i’ch lles a’ch datblygiad.  Yng Nghymru, mae’n gyfraith i barchu hawliau plant a phobl ifanc. Os ydych chi’n credu nad yw eich hawliau yn cael eu bodloni, mae gennych hawl i gymorth.  Gallwch gysylltu ag un o’r canlynol am gefnogaeth: 

COMISIYNYDD PLANT CYMRU – 0808 801 1000 cyngor@complantcymru.org.uk

MEIC – Galw 08088023456 neu testun 84001

GWASANAETH EIRIOLI AIL LAIS – 01978 295600 / 0800 0322 630 secondvoice@wrexham.gov.uk


Eisiau gwybod mwy?

Comisiynydd Plant Cymru – yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gefnogi Hawliau Plant yng Nghymru a chael crynodebau hygyrch o CCUHP (cyswllt cymraeg).

Achub y Plant – yma gallwch ddod o hyd i wybodaeth gefndir a throsolwg da o CCUHP (dolen Saesneg yn unig).

UNICEF – yma gallwch ddod o hyd i drosolwg manwl o CCUHP, yn cynnwys poster crynodeb a dogfen PDF manwl (dolen Saesneg yn unig).

Dual Frequency – yma gallwch ddod o hyd i drosolwg hawdd i’w ddarllen o erthyglau CCUHP, gyda lluniau (dolen Saesneg yn unig).


Os hoffech fwy o wybodaeth am y pwnc hwn os gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad dros y ffôn (01978 398374), e-bost, neu’r cyfryngau cymdeithasol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham