Gadael cartref

Mae gadael cartref yn gam mawr felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio lle rydych yn mynd i fyw cyn i chi adael. Gall gadael cartref heb unman i fynd arwain at eich gwneud yn ddigartref, ac mae hynny’n effeithio ar filoedd o bobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru bob blwyddyn.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Ni allwch adael cartref yn gyfreithlon heb ganiatâd eich rhieni neu eich gwarcheidwaid hyd nes eich bod yn 18 mlwydd oed. Os ydych yn 16 neu 17, bydd angen eu caniatâd swyddogol arnoch. Os ydych o dan 16, nid oes hawl gennych i adael cartref o gwbl, ond os ydych yn wirioneddol anhapus mae yna bobl y gallwch siarad â nhw i gael cymorth.  Mae gwybodaeth wych gan Cyngor ar Bopeth ac mae gan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol gyngor gwych ar sut i reoli a chyllidebu eich arian, mae’n sioc fawr gweld faint sydd angen i chi ei dalu am eich cartref eich hun.

Os ydych yn teimlo ei bod yn anniogel i chi aros gartref, dylech geisio cymorth ar unwaith – gallwch bob amser alw i mewn i’r Siop WYBODAETH a siarad ag aelod o staff.

Os mai ffrae neu broblemau teuluol yw’r rheswm pam yr ydych am adael cartref, yna ceisiwch drafod pethau gyda’ch teulu yn gyntaf. Fe all fod yn broblem y gallwch ei datrys gyda’ch gilydd. Os ydych yn teimlo na allwch siarad â nhw, mae gwasanaethau cyfryngu yng Nghymru all fod o gymorth.  Mae gan y Wallich yn Wrecsam wasanaeth cyfryngu sy’n helpu pobl ifanc 16 a 17 a’u teuluoedd i ddatrys gwrthdrawiadau neu ganfod llety os nad yw’n bosibl iddynt ddychwelyd neu aros gartref.  Os ydych yn bwriadu gadael cartref ac nad oes unman gennych i fynd, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Os ydych o dan 18, bydd yn rhaid iddynt ganfod llety i chi, ond fe all gymryd amser felly ceisiwch beidio â symud hyd nes y byddant wedi sicrhau rhywbeth i chi.

 

Os ydych yn cael trafferth sicrhau’r pethau yr ydych eu hangen ar gyfer eich tŷ, galwch i’r siop WYBODAETH a siaradwch â gweithiwr ieuenctid.

 

Dolenni defnyddiol eraill

Tai – Cyngor ar Bopeth

Pobl Ifanc a Thai – Cyngor ar Bopeth

Housing – The Mix (arferai fod yn TheSite)

Cael Cyngor – Shelter Cymru (teipiwch eich cwestiwn)

Rhai Sefydliadau Lleol

The Wallich

Shelter Cymru – Wrecsam

Barnardo’s Cymru 

Cyngor ar Bopeth Wrecsam

Cyngor Wrecsam – Gwneud cais am dŷ

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham