Iselder

Gall iselder effeithio ar unigolion o bob oedran, cefndir, ffordd o fyw a chenedligrwydd. Gall y mwyafrif o bobl ag iselder barhau â’u bywydau ac mae llawer yn dysgu amdanyn nhw eu hunain ar ôl byw drwy gyfnod o iselder.

Caiff y gair ‘iselder’ ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol.  Gall pawb deimlo’n drist neu’n ddigalon pan mae pethau drwg yn digwydd. Fodd bynnag, ni ystyrir hyn yn iselder. Gall pobl sy’n ddigalon deimlo’n isel am gyfnod byr, ond maent yn llwyddo i ymdopi ac yn gwella’n fuan heb unrhyw driniaeth.

Mae iselder yn gyflwr fwyfwy cyffredin. Gall digwyddiadau penodol yn ein bywydau sbarduno cyfnodau o iselder, er enghraifft pwysau gwaith neu arholiadau, problemau teuluol, pryderon ynghylch hunaniaeth neu gyfeiriadedd rhywiol. Gall newidiadau hormonal, megis oed aeddfedrwydd, beichiogrwydd neu menopos gyfrannu at iselder.

Efallai y bydd unigolion sydd yn dioddef o iselder yn profi’r symptomau isod:

  • Tristwch parhaus neu hwyliau isel
  • Colli diddordeb neu fwynhad
  • Blinder neu ddiffyg egni
  • Cwsg afreolaidd
  • Diffyg canolbwyntio neu amhendantrwydd
  • Diffyg hunan hyder
  • Dim awydd bwyd neu eisiau bwyd mwy nag arfer
  • Meddwl am hunanladdiad neu weithredu
  • Aflonyddwch neu symudiadau’n arafu
  • Euogrwydd neu hunan-feio

Nid yw pob unigolyn ag iselder yn profi’r symptomau hyn i gyd. Bydd unigolion sy’n dioddef o iselder difrifol yn profi mwy o symptomau nag unigolion  sy’n dioddef o iselder ysgafn.

Gall teulu a ffrindiau fod yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i unigolyn sy’n dioddef o iselder. Gall unigolion sy’n teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth gan y bobl o’u cwmpas wella yn gyflymach. Nid yw gwella o iselder mor hawdd â “dod at dy hun”. Mae clywed hyn yn niweidiol iawn, a gall wneud i bobl deimlo’n waeth amdanyn nhw eu hunain, a gwaethygu eu hiselder.

Mae amryw o driniaethau ar gael er mwyn mynd i’r afael ag iselder, gan gynnwys meddyginiaethau, therapïau cyflenwol a therapïau siarad. Os wyt ti’n meddwl dy fod di’n dioddef o iselder, siarada â rhywun am dy deimladau neu gwna apwyntiad gyda dy feddyg teulu.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham