Straen, Gorbryder ac Anhwylder Panig

Bydd pawb yn gorbryderu ar ryw adeg. Mae pob un ohonom yn ei deimlo pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb â sefyllfaoedd bygythiol neu anodd. Gall effeithio ar rywun yn eu corff ac yn eu meddwl ac fe allai gael ei achosi gan boeni neu ofn.

Bydd 1 o bob 10 yn profi gorbryder neu ffobia ar ryw adeg yn eu hoes.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Fel arfer, gall ofn a phryder fod yn ddefnyddiol wrth ein helpu i osgoi sefyllfaoedd peryglus, i’n cadw ar flaenau ein traed ac i’n cymell i fynd i’r afael â phroblemau. Er hynny, os yw’r teimladau’n dod yn rhy gryf neu’n para’n rhy hir, fe allent ein rhwystro rhag gwneud yr hyn yr hoffem ei wneud, gan wneud ein bywydau’n ddiflas.

Dyma rai o symptomau rhai sydd dan straen neu sy’n orbryderus:

  • Poeni drwy’r amser
  • Teimlo’n flinedig
  • Methu â chanolbwyntio
  • Teimlo’n flin
  • Cysgu’n wael
  • Profi crychguriadau’r galon
  • Chwysu llawer
  • Cyhyrau’n brifo ac mewn poen
  • Anadlu’n drwm
  • Penysgafnder
  • Teimlo’n wannaidd
  • Camdreuliad
  • Dolur rhydd

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae pwl o banig yn bwl sydyn o ofn a phryder mawr. Ymysg symptomau pwl o banig, mae:

  • Mwy o ymwybyddiaeth o guriad y galon
  • Chwysu
  • Crynu neu ysgwyd
  • Ymdeimlad o dagu, diffyg gwynt neu fygu
  • Poen neu anesmwythder yn y frest
  • Teimlo’n sâl neu boenau yn yr ystumog
  • Ymdeimlad o afrealrwydd neu ddiffyg cyswllt â’r hunan neu’r amgylchedd
  • Penysgafnder, ansad neu’n wannaidd
  • Ofn marw
  • Diffyg teimlad neu binnau bach
  • Iasau oer neu byliau o wres

Gall sôn am y broblem gyda ffrindiau neu gyda’r teulu fod o gymorth. Gallai dod o hyd i ffyrdd o ymlacio helpu i reoli gorbryder a straen – unrhyw beth, o lyfrau a DVDs hunangymorth hyd at ofyn am help proffesiynol.

Gall meddyginiaeth helpu. Gallwch drafod gyda’ch meddyg teulu os ydych yn meddwl bod hynny’n opsiwn i chi; efallai y byddwch yn cael eich atgyfeirio at feddyg arbenigol, sy’n cael ei alw’n seiciatrydd.

Cofiwch:

  • Sôn am eich teimladau
  • Cadw’n heini
  • Bwyta’n dda
  • Cyfyngu faint o alcohol rydych yn ei yfed
  • Treulio amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau
  • Gofyn am help
  • Cymryd seibiant
  • Gwneud rhywbeth rydych yn dda am ei wneud
  • Cadw’n driw i chi’ch hun
  • Gofalu am eraill

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham