Yswiriant

Yswiriant yw sicrwydd ariannol ar gyfer rhywbeth rydych yn berchen arno.

Gallwch yswirio eich car, eich cartref, eich taith, eich iechyd, eich anifeiliaid anwes a’ch cardiau banc a siopau, ymhlith llawer o bethau eraill.

Mae yswiriant yn eich helpu gyda chostau pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Er enghraifft, os oes angen llawdriniaeth ar eich anifail anwes, yna gall y cwmni yswiriant eich helpu gyda biliau’r milfeddyg.

Mae rhai mathau o yswiriant yn orfodol. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi gael yswiriant i yrru er mwyn eich yswirio am ddamweiniau neu ddifrod i gar neu eiddo rhywun arall.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae mathau eraill o yswiriant yn ddewis personol. Er enghraifft, yswiriant teithio. Er mwyn gweithio allan a yw’n werth cael y math hwn o yswiriant, bydd angen i chi ystyried yr effaith debygol arnoch chi pe bai rhywbeth yn mynd o’i le yn erbyn cost yr yswiriant.

Mae’r fideo hwn yn sôn am yswiriant gwyliau, mae wedi’i anelu at deuluoedd ond mae’n rhoi cyngor da i chi….

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Gyda sicrwydd yswiriant, byddwch yn talu premiwm sydd yn swm o arian a delir i’r cwmni yswiriant bob blwyddyn neu bob mis. Mae hyn yn eich yswirio rhag ofn i rywbeth fynd o’i le.

Mae gan bob cwmni yswiriant bolisïau gwahanol ar gyfer gwahanol bethau. Mae rhai yn ddrutach nag eraill, felly mae’n bwysig siopa o gwmpas am fargen dda.

Darllenwch y polisi yswiriant yn ofalus iawn cyn i chi lofnodi a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn union beth mae’n ei gwmpasu.

Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn pennu tâl-dros-ben. Mae hwn yn swm y bydd angen i chi ei dalu pan fyddwch yn gwneud cais gan eich cwmni yswiriant. Er enghraifft, os oes gennych dâl-dros-ben o £50, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu’r £50 cyntaf am unrhyw hawliad. Bydd eich yswiriwr yn talu’r gweddill.

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor Arian adrannau ardderchog ar ddyled a benthyca gan gynnwys:

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor Arian ar:

0800 138 7777 (Saesneg)

0800 138 0555 (Cymraeg)

Typetalk:  18001 0300 500 5000

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham