Diogelwch Ar-lein

Mae’r fideo yma ychydig flynyddoedd oed, ond mae’n hanfodol eich bod yn ei wylio er mwyn gwybod pam fod gofalu am eich diogelwch ar-lein yn bwysig.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Dyma rywfaint o argymhellion a dolenni defnyddiol i’ch helpu i fod yn ddiogel ar-lein:

  • Peidiwch byth â datgelu eich manylion personol ar-lein
  • Peidiwch â chysylltu ag unigolion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook a Snapchat os nad ydych chi’n gwybod pwy ydi’r unigolion
  • Ar-lein ydi’r lle gorau i gadw eich ffrindiau ar-lein, gall cwrdd â dieithriaid fod yn beryglus
  • Fe all pobl ddweud celwydd ynghylch pwy ydynt
  • Byddwch yn wyliadwrus o agor ffeiliau gan bobl nad ydych chi’n eu hadnabod, fe allent gynnwys firws neu gynnwys anaddas
  • Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych chi’n ei ysgrifennu i bawb ei weld – cwestiwn cyflym i’w ofyn cyn rhoi unrhyw beth ar-lein ydi “a fyddwn i’n argraffu hwn ar grys-t ac yn cerdded lawr y stryd yn ei wisgo?”
  • Mae gan y mwyafrif o wefannau rhwydweithio cymdeithasol osodiadau preifatrwydd y gallwch eu newid i sicrhau mai dim ond eich ffrindiau all weld eich proffil

Dolenni cyswllt defnyddiol

Mae gan Thinkuknow adran wych am ddiogelwch ar-lein i bobl 14+ oed.

Mae gan CBBC 8 awgrym i fod yn ddiogel ar-lein yn ogystal ag adran fawr ar aros yn ddiogel ar-lein.

Mae gan The Mix (theSite.org gynt) ychydig o erthyglau da gan gynnwys Help!  There are naked photos of me onlineOnline dating safely a Cyberbullying.

Mae’r ddogfen PDF yma gan The National Deaf Children’s Society a Childnet yn ymdrin â phopeth yn gryno.

Rhai Sefydliadau

Mae gan Hwb ar e-Ddiogelwch lawer o sefydliadau defnyddiol, felly gwiriwch nhw yn gyntaf – neu fel arall, ewch i…

UK Safer Internet Centre 

Childnet.com 

CEOP Safety Centre for reporting incidents

Revenge Porn Helpline 

NSPCC’s Share Aware campaign

 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham