Perthnasau

O ofyn i rywun fynd allan efo chi’r holl ffordd drwodd i briodi, ar y dudalen hon fe gewch wybodaeth a chyngor i’ch cefnogi chi gydag elfen bwysicaf ac o bosibl anoddaf eich bywyd – perthnasoedd. 

Mae’n normal ac yn iach i fod eisiau dod o hyd i rywun i fod mewn perthynas efo nhw, i rannu eich amser a’ch profiadau â nhw.  Mae pob perthynas yn unigryw a does  ‘na  ddim brys i fod mewn perthynas cyn i chi deimlo eich bod chi’n barod.

Gall fod yn brofiad gwych ond gall weithiau hefyd fod yn amser dryslyd a phryderus iawn i lawer ohonom.  Mae bod efo rhywun yn gofyn am barch, cyfaddawdu a siarad am ein teimladau.  Weithiau mae’n hawdd anghofio faint o amser, amynedd ac ymrwymiad sydd ei angen i wneud i berthynas weithio.

Mae gennych hawl i wneud dewisiadau yn eich perthnasoedd a ddylech chi ddim cael eich rhoi dan bwysau i ruthro i mewn i unrhyw beth.  Cofiwch, eich teimladau chi ydi’r peth pwysicaf ac os ydych yn teimlo fod arnoch angen help a chyngor, cofiwch fynd at rywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw i siarad am eich pryderon.

Dolenni Defnyddiol

 Mae gan Brook.org.uk   lawer iawn o wybodaeth am berthnasoedd, gan gynnwys:

Mae The Mix  yn safle arall gyda thoreth o wybodaeth ac erthyglau am berthnasoedd, gan gynnwys:

Mae gan iRelate  adrannau am gariadon a pherthnasoedd:

Mae gan Cyngor ar Bopeth hefyd adran am berthnasoedd sy’n canolbwyntio fwy ar y gyfraith a’ch hawliau chi.

Mae gan CLIC Sargent, sy’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc gyda chanser, erthygl ddiddorol ar berthnasoedd a rhyw.

Heb fod eisiau taflu dŵr oer ar bethau, os dydy’ch perthynas chi ddim yn gweithio neu os ‘da chi ddim yn teimlo’n gyfforddus, ewch i’r adran Pan fydd pethau’n mynd o chwith.

Hefyd, darllenwch yr adran Ffrindiau os ‘da chi eisiau bod yn fwy na ffrindiau efo rhywun…

Help gan Sefydliadau Lleol

Mae croeso i chi alw heibio’r Siop Wybodaeth os fyddwch yn teimlo eich bod eisiau siarad efo rhywun am eich perthynas; mae ‘na weithwyr ieuenctid a chwnsleriaid yn gweithio yno a byddant yn hapus i siarad efo chi.

Help gan Sefydliadau Cenedlaethol

Relate: darparwr cefnogaeth perthnasoedd mwyaf y DU

SupportLine: Sgroliwch i waelod y dudalen hon i weld llinellau cymorth sy’n delio’n benodol â pherthnasoedd.

Cymorth i Ferched Cymru: Yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol ar gyfer merched a phlant sydd wedi, neu sydd yn profi camdriniaeth ddomestig.

The Hideout: yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall beth yw camdriniaeth ddomestig ac i gymryd camau cadarnhaol o ydy o’n digwydd iddyn nhw.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham