Diweithdra

Gall diweithdra fod yn gyfnod anodd, dylai’r dudalen hon roi gwybodaeth am sut i ofalu am eich hun.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Gall diweithdra fod yn adeg anodd, dylai’r dudalen hon roi gwybodaeth ar sut i ofalu am eich hun.

Gofalu am eich hun

Gall bod yn ddi-waith eich tynnu chi lawr. Os ydych yn dymuno siarad gyda rhywun, neu eisiau cyngor am eich sefyllfa, gallwch bob amser siarad gyda chynghorydd  neu mae yna wasanaethau ar lein y gallwch gysylltu â nhw fel Meic y gallwch siarad gyda nhw ar lein trwy destun (84001) neu roi galwad iddynt: 0808 80 23456.

Ymdopi tra rydych yn ddi-waith

Efallai y byddwch yn gymwys i rai budd-daliadau i’ch helpu i gael eich cefn atoch – mae gan Gov.UK restr ohonynt yma. Os ydy’r rhain yn llethol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch bob amser fynd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth Lleol (neu edrych ar eu canlyniadau chwilio yma)

Mae gennym adran arian  ar y safle a all roi’r wybodaeth rydych ei hangen.

Dechrau eto

Dyma erthygl a all helpu – 10 cyngor i gael swydd

Gallwch geisio cysylltu â’r Ganolfan Waith

Mae gan Gyrfa Cymru gyngor os ydych yn ddi-waith ond gall gweddill eu gwefan fod yn ddefnyddiol iawn hefyd.

Mae gan Ymddiriedolaeth y Tywysog bwyntiau ar gyfleoedd a all fod o ddiddordeb os ydych yn barod i chwilio am waith.

Ac mae yna bob amser ein Hadran Swyddi a Gyrfaoedd, os ydych yn barod i chwilio am waith.

Beth bynnag yw eich sefyllfa a faint bynnag yr ydych wedi bod yn ddi-waith, ceisiwch aros yn gadarnhaol ac yn obeithiol y byddwch yn dod o hyd i waith.  Efallai y bydd yn cymryd amser, byddwch angen dyfalbarhau ac mae’n bosibl na fydd y swydd y byddwch yn dod o hyd iddi gyntaf yr hyn yr hoffech ei wneud fel gyrfa, ond bydd ceisio cael agwedd gadarnhaol i ddod o hyd i waith o gymorth mawr.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham