Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal – Be’ ‘di be’ a phwy ‘di pwy?

Bod dan Ofal

Wyt ti’n chwilio am wybodaeth am fod dan ofal, maethu, mabwysiadu, neu lety â chymorth yn Wrecsam? Gallwn ddangos y cyfeiriad cywir i ti.

Weithiau mae pethau’n digwydd mewn teuluoedd sy’n golygu nad yw plant neu bobl ifanc yn gallu byw gyda’u rhieni. Gall hyn fod oherwydd llawer o resymau gwahanol gan gynnwys salwch, problemau teuluol neu oherwydd na all eich rhiant neu deulu ofalu amdanoch yn iawn oherwydd amgylchiadau.

https://www.youtube.com/watch?v=JNIAlH6n6d4

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Os bydd hyn yn digwydd i chi, bydd  Cyngor Wrecsam yn gofalu am eich anghenion llety ac addysg, weithiau bydd hyn yn golygu y byddwch yn byw gyda theulu maeth. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall pwy sy’n gofalu amdanoch chi fod yn drefniant dros dro neu dymor hir. Bydd gennych weithiwr cymdeithasol sy’n helpu i sicrhau eich bod yn cael gofal a dylent roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth sy’n digwydd.

Pan fyddwch yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol rhaid llunio cynllun ar gyfer sut y byddwch yn derbyn gofal. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel lle byddwch chi’n byw a pha mor aml gallwch weld eich rhieni os ydych chi a’ch teulu am gadw mewn cysylltiad.

Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i weithwyr cymdeithasol gymryd sylw o’ch dymuniadau a’ch teimladau. Mae eich barn yn bwysig felly mae’n bwysig eich bod yn dweud beth rydych eisiau pan fydd eich gweithiwr cymdeithasol, eich teulu a’r bobl sy’n gofalu amdanoch yn creu cynlluniau ar gyfer eich dyfodol.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Os oes pethau nad ydych yn hapus gyda nhw, mae’n well siarad gyda’ch gofalwyr neu eich gweithiwr cymdeithasol a fydd yn gallu rhoi trefn ar bethau fel arfer. Mae sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth eiriolaeth hefyd; Voices From Care a Tros Gynnal Plant i’ch cefnogi tra rydych dan ofal ac i’ch helpu i ddelio gydag unrhyw broblemau rydych yn eu cael. Mae eiriolwr yn weithiwr proffesiynol wedi’i hyfforddi, sy’n annibynnol i’r gwasanaethau cymdeithasol, eich gofalwr a’ch gweithiwr cymdeithasol a all siarad ar eich rhan os oes angen.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Dolenni cyswllt defnyddiol

Gwybodaeth Gov.UK am adael gofal maeth neu ofal awdurdod lleol

The Mix: Finding Out You’re Adopted

The Mix: Being In Care

The Mix: Leaving Care

Rhai Sefydliadau Cenedlaethol

Voices From Care Cymru – sefydliad annibynnol cenedlaethol Cymru sy’n ymroddedig i gynnal hawliau a lles plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal neu sydd wedi bod yn derbyn gofal.

Comisiynydd Plant Cymru – yn eiriolwyr plant a phobl ifanc ac sy’n ceisio sicrhau bod eich hawliau yn cael parch a’ch lleisiau yn cael eu clywed.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham