Cyffuriau Ac Alcohol
Os oes gennych unrhyw faterion, ymholiadau neu bryderon ynglŷn â defnyddio cyffuriau neu sylweddau yna gallwch gysylltu â Phrosiect Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc In2change.
Neu mae yna wefannau gwych a llinellau cymorth all roi gwybodaeth i chi ar gyffuriau a sylweddau.
Gwasanaethau Cefnogi Cenedlaethol
TalktoFrank – Mae’r Gwasanaeth Addysgu am Gyffuriau Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth cynghori cyfrinachol ar gyffuriau. Mae’n cynnig llawer o wybodaeth ar sylweddau (gan gynnwys rhai newydd), mae’n dweud wrthych beth yw’r peryglon, sut y gallwch aros yn ddiogel a beth i’w wneud os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch. Neu gallwch ffonio 03001236600. Mae’n bosibl i chi gael sgwrs fyw ar y wefan rhwng 2pm-6pm
Llinell gymorth yng Nghymru yw DAN 247, llinell gymorth 24 awr ar gyffuriau ac alcohol a gellir cysylltu â hwn drwy Radffôn: 0808 808 2234 neu drwy anfon neges destun gyda’r gair DAN i: 81066
Gwefan i helpu i wrthsefyll camdriniaeth alcohol a chyffuriau yw Mentor.org.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Fêps
Pwyntiau Allweddol E-sigarét sydd â dyfais wedi’i bweru gan fatri sy’n trosi nicotin hylifol yn aerosol (neu anwedd) y mae’r defnyddiwr yn ei anadlu yw fêp. Nid yw e-sigaréts yn…
Canabis
Pwyntiau allweddol: Mae canabis yn gyffur sy’n seiliedig ar blanhigion. Gellir ei ysmygu, ei fwyta neu ei ddefnyddio fel e-sigaréts. Gall effeithiau canabis amrywio yn dibynnu ar yr unigolyn. Mae…
Alcohol
Pwyntiau Allweddol Mae alcohol yn dod mewn amrywiaeth eang o ddiodydd ac mewn amrywiaeth o gryfderau, lliwiau a blasau. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ddiodydd alcoholig nodi cryfder…
Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn
Pwyntiau Allweddol: Mae camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn golygu cymryd unrhyw feddyginiaeth mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r cyngor meddygol. Gall camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn gynnwys: 1/ Cymryd meddyginiaeth…
Nos
Pwyntiau Allweddol Nwy diarogl a di-liw yw NOS y gellir ei anadlu o duniau bach drwy falŵn. Rhai enwau stryd cyffredin ar gyfer NOS yw: Y Gyfraith Mae NOS yn…
Ecstasi (MDMA)
Fel rheol mae pobl yn cymryd ecstasi (neu MDMA neu MD) ar ffurf tabled neu bowdr. Hwn ydi ‘cyffur parti’ sawl person ifanc sy’n cymryd cyffuriau ac mae’n eich gadael…
Cetamin
Pwyntiau Allweddol Mae Cetamin yn sylwedd powdr gwyn sydd hefyd yn gallu bod mewn ffurf hylif clir neu dabled. Pan mae’n cael ei lyncu mae’n gallu blasu’n eithaf chwerw. Bydd…
Cocên
Pwyntiau Allweddol: Mae cocên yn gyffur adfywiol ac nid yw’r effaith yn para’n hir ar ôl ei ddefnyddio, dywedir yn aml ei fod yn gyffur sy’n gwneud i bobl fod…