Digartrefedd

Mae bod yn ddigartref yn golygu bod heb gartref rheolaidd, diogel y gallwch deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus yno.  Gall olygu peidio cael to uwch eich pen a gorfod cysgu ar y stryd.

Gall hefyd olygu nad oes gennych unrhyw le i fynd ac aros gyda ffrindiau neu mewn llety dros dro fel gwely a brecwast neu westy.  Felly, mae gennych do uwch eich pen ond rydych yn parhau’n ddigartref.  Mae pobl yn yr amgylchiadau hyn yn aml yn cael eu galw’n ‘bobl ddigartref cudd’.

Mae yna lawer o resymau pam bod pobl yn ddigartref.  Efallai eich bod wedi disgyn allan gyda’r teulu, nid ydych yn gallu aros yn eich tŷ oherwydd na allwch ei fforddio mwyach, wedi gadael eich cartref oherwydd eich bod wedi dioddef camdriniaeth neu drais domestig neu wedi cael eich troi allan.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Beth bynnag fo’r rheswm, mae’n bwysig sylweddoli nad yw bod heb rywle parhaol i fyw yn rywbeth i fod â chywilydd ohono a bod yna gymorth ar gael.

Mae yna nifer o sefydliadau sy’n gallu eich helpu am ddim ac yn gyfrinachol i sicrhau fod gennych rywle diogel i aros gynted â phosibl.

 

Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth ar beth i’w wneud os ydych yn ddigartref a sut i atal digartrefedd.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae Opsiynau Tai Wrecsam yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth, o ddigartrefedd i fudd-daliadau.

Mae gwefan Gwasanaeth Tai Wrecsam yn ddrws ffrynt i wybodaeth a chyngor ar yr holl opsiynau tai sydd ar gael i chi.

Os ydych yn chwilio am y lle iawn ar gyfer cyngor tai wyneb yn wyneb, ymholiadau a cheisiadau, yna gallwch gysylltu â Swyddfeydd Ystad Tai Wrecsam

 

Mae Cyngor Wrecsam yn darparu llawer o wybodaeth i chi os ydych yn ddigartref neu’n poeni y byddwch yn ddigartref yn y dyfodol.  Gallwch hefyd gael talebau bwyd gan wahanol sefydliadau yn Wrecsam i weld lle rydych angen cysylltu â bancbwyd Wrecsam, i gael bwyd ganddynt ac i wybod lle cliciwch yma.

 

Mae yna loches nos  yn Wrecsam a llefydd i chi gael bwyd ledled y dref trwy’r soup dragon , Tŷ Croeso a Byddin yr Iachawdwriaeth.  Ar gyfer amseroedd lle maen nhw galwch yn y siop WYBODAETH neu cysylltwch â ni trwy’r dolenni isod.

Rhai Sefydliadau Lleol

Byddin yr Iachawdwriaeth Wrecsam

The Wallich

Shelter Cymru – Wrecsam

Barnardo’s Cymru 

Cyngor ar Bopeth Wrecsam

Tŷ Nos

 

Dolenni eraill a allai fod yn ddefnyddiol

Tai – Cyngor ar Bopeth

Pobl Ifanc a Thai – Cyngor ar Bopeth

Tai – y Cymysgedd (Y Safle gynt)

Cael Cyngor – Shelter Cymru (teipiwch eich cwestiwn)

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham