Siop Wybodaeth

Siop Wybodaeth

Mae’r siop wybodaeth yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Gall pobl ifanc alw draw i’r siop am bob math o wybodaeth, o gyngor ariannol i gymorth gyda budd-daliadau.

Yma, gall pobl ifanc ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus i chwilio am swyddi, creu CV a defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae aelodau staff ar gael os byddan nhw angen unrhyw gymorth.

Mae’r staff yno i’ch helpu chi, nid eich barnu chi.  Byddwn yn cadw popeth y byddwch chi’n ei drafod â ni yn gyfrinachol, oni bai’n bod yn teimlo eich bod chi neu berson arall mewn perygl o niwed. Os mai dyma’r achos, byddwn yn siarad gyda chi ac yn gadael i chi wybod beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf i’ch diogelu chi.  Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein polisi cyfrinachedd, holwch aelod o’r staff.

Mae’r aelodau staff yn cynnwys:

Martine Vout: Uwch Ymarferydd (Rheolwr)

Lowri Kendrick: Cydlynydd Ail Lais

ackie Jakisch: Gweithiwr Gwybodaeth Ieuenctid / eiriolwr

Paula Bryan: Gweithiwr Gwybodaeth Ieuenctid / eiriolwr

Mae’r siop hefyd yn gartref i nifer o brosiectau, sy’n ei gwneud yn ‘siop un stop’.

Dyma’r gwasanaethau eraill sydd ar gael:

* Contact, sef gwasanaeth iechyd rhywiol a gynhelir gan weithwyr ieuenctid, meddygon a nyrsys.

Gwasanaeth Cwnsela Outside In , sef cefnogaeth un i un pan fo pethau’n mynd yn drech na chi a’ch bod angen trafod eich pryderon â rhywun yn gyfrinachol.

* Gwasanaeth Eirioli Ail Lais, os byddwch chi angen lleisio’ch barn.

* In2Change, am gymorth gyda chyffuriau ac alcohol.

* Y Tîm Gadael Gofal, sy’n helpu pobl ifanc mewn gofal.

Manylion Cyswllt

Cyfeiriad Cyswllt: Siop Wybodaeth – Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR

Rhif Ffôn:  01978 295600

Rhif Ffacs: 01978 295608

Cyfeiriad e-bost: infoshop@wrexham.gov.uk

URL y wefan: www.youngwrexham.co.uk

Oriau Agor

Dydd Llun: 11.30 tan 5.30

Dydd Mawrth: 11.30 tan 4.30

Dydd Mercher:11.30 tan 5.30

Dydd Iau: 11.30 tan 4.30

Dydd Gwener: 11.30 tan 5.30


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham