Cwnsela

Rydym yn cynnig lle diogel, cyfrinachol i chi archwilio eich meddyliau a’ch teimladau a gyda’ch gilydd ddod o hyd i ffordd ymlaen – ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 oed.
Sut mae gwneud atgyfeiriad?
Gallwch hunangyfeirio neu fel arall, gallai eich rhiant/gofalwr/athro neu unrhyw oedolyn y gallwch ymddiried ynddo/ynddi wneud hyn gyda’ch caniatâd. Os byddai’n well gennych ddod i mewn i’r Siop INFO i gwblhau’r ffurflen atgyfeirio, gwnewch hynny.
Gallwch godi ffurflen atgyfeirio o’r lleoedd canlynol:
- Ysgol
- Coleg
- INFO Siop
- Gallwn bostio un atoch chi
Cwblhewch a dychwelwch yr atgyfeiriad i Outside In, Siop INFO, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR, neu sgan/e-bostiwch at outside_in@wrexham.gov.uk, sylwer, ni allwn dderbyn unrhyw gyfeiriadau heb ganiatâd y person ifanc.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd cwnselydd yn cysylltu â chi trwy e-bost/ffôn pa un bynnag sydd orau i chi, i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich atgyfeiriad, bydd yn rhoi gwybod i chi ble rydych chi ar y rhestr aros a phryd y gallwch ddisgwyl i’ch sesiynau ddechrau.
Pa mor hir yw’r sesiynau cwnsela?
Mae sesiynau am 50 munud yr wythnos, rydym yn ceisio ffitio hyn i mewn i’ch amserlen lle bo modd.
Faint o sesiynau fyddaf yn eu cael?
Sesiynau 6 wythnos i ddechrau, yna byddwn yn adolygu gyda’n gilydd a oes angen cwnsela pellach arnoch. Bydd eich cwnselydd hefyd yn gallu nodi gwasanaethau cymorth eraill a allai hefyd eich helpu a gall naill ai eich cyfeirio neu wneud atgyfeiriad gyda’ch caniatâd.
Ble mae’r sesiynau’n cael eu cynnal?
Eich dewis chi yw ble y cynhelir eich cwnsela, gall hyn fod yn eich ysgol, y Siop INFO neu yng Nghanolfan Ieuenctid “Vic”.
Pryd alla i ddod am gwnsela?
Mae sesiynau cwnsela ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 9:00am tan 5:30pm.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Partneriaid Ariannu


