Cwnsela

Cwnsela Outside In

GORBRYDERUS?   DRYSLYD?  POENI? TRIST? BLIN? DIYMADFERTH?

Mae Gwasanaeth Cwnsela ‘Outside In’ wedi’i leoli yn y Siop Wybodaeth ar gyfer pobl ifanc 11 – 25 oed. Rydym yn cynnig apwyntiadau cwnsela yn y Siop Wybodaeth ac yn Ysgolion Uwchradd Wrecsam.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Materion y gall cwnsela eich helpu i edrych arnyn nhw……..

Rheoli dicter

Pryderon am rywioldeb

Teimladau o hunan gasineb

Pam ydych yn teimlo’n isel ac wedi cael llond bol

Problemau yn yr ysgol a’r cartref

Meddwl am ladd eich hun

Profiadau rhywiol dieisiau / profiadau o gamdriniaeth

Perthnasau

Gorbryder

Colledion

Gall cwnsela hirdymor eich helpu i……..

Wella perthnasoedd a chyfeillgarwch

Lleihau straen

Gwerthfawrogi’ch hunan, gwneud bywyd yn haws i chi

Cofiwch nad oes unrhyw broblem, pwnc na phryder yn rhy fawr na’n rhy fach
Felly beth allwch chi ddisgwyl ei elwa o gwnsela……

Cael rhywun i wrando arnoch a’ch parchu

Help i siarad am unrhyw beth sy’n eich poeni

Dim beirniadaeth na rhywun yn dweud wrthych beth i’w wneud

Help i wneud dewisiadau a phenderfyniadau

Sesiynau 50 munud mewn lleoliad cyfrinachol preifat

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Rydym yn cymryd cyfrinachedd o ddifrif a byddwn yn rhoi esboniad manylach i chi pan fyddwch yn cael cyfarfod â ni.

Sylwadau gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth……

“Roeddwn i’n teimlo fel darn o raff â chwlwm ynddi ac mae cwnsela wedi fy ngalluogi i ddatod y cwlwm. Rŵan rydw i’n gallu mynd i ble y mynnaf heb gael fy nal yn ôl”
“Rhywun diduedd i siarad â nhw”

“Rydw i wedi magu hyder a rŵan rydw i’n sylweddoli nad fy mai i ydy o a gallaf ddechrau meddwl a gwneud dewisiadau fy hun”.

Sut allaf drefnu apwyntiad?

Rhif Ffôn: Siop Wybodaeth 01978 295600
Testun: Rhif ffôn symudol cwnsela ‘Outside In’ 07800 689039
E-bost: outside_in@wrexham.gov.uk

Neu drwy ofyn i ffrind, rhiant, athro, gweithiwr ieuenctid, gweithiwr proffesiynol neu unrhyw un yr ydych yn ymddiried ynddo i gysylltu â ni ar eich rhan.

Mae holl gwnselwyr Outside In yn gymwys ac yn brofiadol i weithio gyda phobl ifanc. Mae’r gwasanaeth a’r cwnselwyr yn dilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008) a chanllawiau’r Gymdeithas Brydeinig Cwnsela a Seicotherapi.

Os oes rhywun arbennig yn marw——–

www.rd4u.org.uk
www.cruise.org.uk

Ystyr RD4U yw ‘road for you’. Mae’n wefan a ddatblygwyd gan Brosiect Ymgysylltu â Phobi Ifanc elusen ‘Cruse Bereavement Care’ a’i nod yw cefnogi pobl ifanc ar ôl i rywun agos iddynt farw.

Mae pawb yn ymateb yn wahanol i farwolaeth ac mae’n brofiad unigol. Ewch i’r wefan i ganfod sut mae pobl eraill wedi ymdopi yn eich sefyllfa chi, darllenwch am eu profiadau, rhannwch eich meddyliau a’ch teimladau a dewch o hyd i help a syniadau i ymdopi.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham