Banciau a Chymdeithasau Adeiladu
Ydych chi’n dilyn cwrs yn y coleg ac yn derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu’n ystyried cael swydd ac yn chwilio am rywle i gadw’ch arian yn saff? Os felly, dylai’r wybodaeth isod eich helpu chi ddechrau arni.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ariannol i helpu pobl i reoli eu harian.
Yn ogystal â chynnig cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo, maen nhw hefyd yn cynnig cardiau credyd, benthyciadau a morgeisi.
Mae pob banc a chymdeithas adeiladu yn wahanol ac yn cynnig gwasanaethau amrywiol.
Dyma ychydig o awgrymiadau a all fod o gymorth i chi:
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Adran ariannol y Money Supermarket
Money Saving Expert – yn enwedig y 47 awgrym arbed arian ar gyfer pobl 16 – 25 oed
Cyn llofnodi i agor cyfrif banc neu dderbyn gwasanaeth arall, cofiwch holi banciau a chymdeithasau adeiladu eraill er mwyn cael y fargen orau – a pheidiwch byth â llofnodi unrhyw beth os nad ydych chi’n deall yr amodau yn iawn. Cofiwch ddarllen y print mân!
Mae rhai banciau yn codi tâl am bethau ac efallai na fyddwch chi’n ymwybodol o’r pethau hynny – ond dyma fideo defnyddiol i chi ar hynny….
Os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa ariannol, siaradwch â Chyngor ar Bopeth neu’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
Os oes gennych chi gŵyn am fanc neu gymdeithas adeiladu, ysgrifennwch at y brif swyddfa neu cysylltwch â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol sy’n rheoleiddio’r holl fanciau a chymdeithasau adeiladu.
Dolenni defnyddiol eraill
The Mix (theSite.org gynt) – llawer o wybodaeth ar gael yn yr adran ariannol
Gov.uk’s section on money & tax
Citizens Advice money advice videos
Money Supermarket’s money section
Money Saving Expert – yn enwedig y 47 awgrym arbed arian ar gyfer pobl 16 – 25 oed
Apiau a gemau
Wishfund – dyma ap sy’n gallu’ch helpu chi gadw golwg ar y pethau rydych chi’n cynilo ar eu cyfer (ar gael ar gyfer dyfeisiau Android).
Sefydliadau Lleol
Sefydliadau Cenedlaethol
Llinell Gymorth Genedlaethol ar Ddyledion
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.