Dyled

Dyled yw pan mae arnoch arian i rywun. Gall materion dyled ac arian gael eu rhannu’n ddau gategori, problemau rheoli arian a phroblemau dyled. 

Problem rheoli arian – dyma pryd mae gennych ddigon o incwm ar gyfer gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent/morgais ac ati) ac ymrwymiadau credyd ond rydych yn gwario gormod ar eitemau nad ydynt yn hanfodol.   Yn yr amgylchiadau hyn, rydych angen cyngor cyllido ac angen lleihau faint rydych yn ei wario ar eitemau dewisol fel dillad, bwyta allan ac ati.

Problem dyled – dyma lle nad oes gennych ddigon o incwm ar gyfer gwariant hanfodol ac ymrwymiadau credyd misol.  Yn yr amgylchiadau hyn, byddwch angen gofyn am gyngor gan elusen dyled cenedlaethol (fel Llinell Ddyled Genedlaethol neu Sefydliad Cyngor Dyled), a fydd yn argymell yr ateb mwyaf priodol i’ch sefyllfa chi (pa un a yw hynny yn Orchymyn Gweinyddiaeth, Gorchymyn Cymorth Dyled, Rheoli Dyled, Methdaliad, Rhyddhau Ecwiti neu Drefniant Gwirfoddol Unigol er enghraifft – mae’n gymhleth iawn ac mae’r ateb sy’n iawn i chi yn dibynnu ar faint o arian sydd arnoch chi, faint sydd gennych ar gael i dalu yn ôl i’ch credydwyr bob mis a pha un a oes gennych unrhyw asedau y dymunwch eu diogelu, fel eich cartref).

Bydd y rhan fwyaf o bobl mewn dyled ar ryw adeg yn ystod eu bywyd, pa un a yw’n arian sydd arnoch am fil cerdyn credyd neu fenthyciad myfyriwr.

Mae dyled yn broblem os oes arnoch arian nad ydych yn gallu ei dalu yn ôl.

Os ydych mewn dyled na allwch ad-dalu, y peth pwysicaf yw peidio cynhyrfu a pheidio anwybyddu’r broblem – ni fydd yn diflannu.

Os oes gennych broblemau gyda dyled, dylech ddelio gyda nhw gynted â phosibl.  Mae yna bobl sy’n gallu eich helpu a digon o ffyrdd i’ch helpu i leihau eich dyled.

Os ydych mewn dyled, siaradwch gyda rhywun.  Efallai y byddai’n helpu i ddweud wrth aelod o’r teulu neu ffrind a allai eich helpu neu gallech siarad gyda Cyngor ar Bopeth am gyngor cyfrinachol am ddim.

Mae yna wahanol fathau o ddyled, yn dibynnu ar eu blaenoriaeth i dalu’r arian yn ôl.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Dyledion blaenoriaeth

Dyledion blaenoriaeth yw’r dyledion y gall y credydwyr (y bobl sydd arnoch chi arian iddynt) gymryd y camau cyfreithiol mwyaf yn eich erbyn os nad ydych yn ad-dalu’r arian. Mae’r rhain yn cynnwys:

Ad-daliadau morgais – gall y benthycwr morgais gymryd camau llys i feddiannu eich cartref

Rhent – gall y landlord eich troi chi allan os nad ydych wedi talu’r rhent.

Treth incwm a TAW – gallwch gael eich gwneud yn fethdalwr neu gael eich carcharu am beidio talu treth incwm neu TAW

Dirwyon, fel dirwyon llys ynadon am droseddau traffig.  Os nad yw’r rhain yn cael eu talu, gall y llys ddefnyddio’r beili i ailfeddiannu eich nwyddau. Os, yn dilyn hyn, eich bod yn parhau ag ôl-ddyledion heb eu talu, gallwch gael eich anfon i’r carchar

Cynhaliaeth, cynnal plant neu dreth cyngor neu drethi. Os nad yw’r rhain yn cael eu talu, gall llys ddefnyddio’r beili i ailfeddiannu eich nwyddau. Os, yn dilyn hyn, eich bod yn parhau ag ôl-ddyledion heb eu talu, gallwch gael eich anfon i’r carchar

Dyledion nwy, trydan ac olew – os na thelir y biliau hyn bydd y cyflenwad yn cael ei ddigysylltu

Hur bwrcas (a elwir weithiau yn ‘werthiant amodol’) yn ddyled blaenoriaeth  os yw am eitem hanfodol, er enghraifft, os ydych wedi prynu car ar hur bwrcas ac angen y car y fynd i’r ysgol

Mae’n bwysig talu unrhyw ddyledion blaenoriaeth yn gyntaf cyn unrhyw ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth

Mae dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys:

Ôl-ddyledion cardiau credyd a chardiau siop

Ôl-ddyledion catalog

Gorddrafft a benthyciadau banc

Gordaliadau budd-daliadau

Hur bwrcas (a elwir weithiau yn ‘werthiant amodol’) yn ddyled heb flaenoriaeth  os yw am eitem nad ydynt yn hanfodol fel teledu

Arian a fenthycwyd gan deulu neu ffrindiau

Er y gall y credydwyr dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth ddwyn achos llys yn eich erbyn os nad ydych yn talu ac efallai y byddant yn anfon y beili, ni ellir eich anfon i’r carchar

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor Arian adrannau ardderchog ar ddyled a benthyca gan gynnwys:

Lle i fynd i gael cyngor dyledion am ddim

Sut i flaenoriaethu eich dyled

Cymorth os ydych yn cael problemau gyda dyled

Archwiliad iechyd dyled sydyn a hawdd

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor Arian ar:

0800 138 7777 (Saesneg)

0800 138 0555 (Cymraeg)

Typetalk: 18001 0300 500 5000

 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham