Diogelwch Ar-lein
Mae’r fideo yma ychydig flynyddoedd oed, ond mae’n hanfodol eich bod yn ei wylio er mwyn gwybod pam fod gofalu am eich diogelwch ar-lein yn bwysig.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Dyma rywfaint o argymhellion a dolenni defnyddiol i’ch helpu i fod yn ddiogel ar-lein:
- Peidiwch byth â datgelu eich manylion personol ar-lein
- Peidiwch â chysylltu ag unigolion ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol megis Facebook a Snapchat os nad ydych chi’n gwybod pwy ydi’r unigolion
- Ar-lein ydi’r lle gorau i gadw eich ffrindiau ar-lein, gall cwrdd â dieithriaid fod yn beryglus
- Fe all pobl ddweud celwydd ynghylch pwy ydynt
- Byddwch yn wyliadwrus o agor ffeiliau gan bobl nad ydych chi’n eu hadnabod, fe allent gynnwys firws neu gynnwys anaddas
- Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych chi’n ei ysgrifennu i bawb ei weld – cwestiwn cyflym i’w ofyn cyn rhoi unrhyw beth ar-lein ydi “a fyddwn i’n argraffu hwn ar grys-t ac yn cerdded lawr y stryd yn ei wisgo?”
- Mae gan y mwyafrif o wefannau rhwydweithio cymdeithasol osodiadau preifatrwydd y gallwch eu newid i sicrhau mai dim ond eich ffrindiau all weld eich proffil
Dolenni cyswllt defnyddiol
Mae gan Thinkuknow adran wych am ddiogelwch ar-lein i bobl 14+ oed.
Mae gan CBBC 8 awgrym i fod yn ddiogel ar-lein yn ogystal ag adran fawr ar aros yn ddiogel ar-lein.
Mae gan The Mix (theSite.org gynt) ychydig o erthyglau da gan gynnwys Help! There are naked photos of me online, Online dating safely a Cyberbullying.
Mae’r ddogfen PDF yma gan The National Deaf Children’s Society a Childnet yn ymdrin â phopeth yn gryno.
Rhai Sefydliadau
Mae gan Hwb ar e-Ddiogelwch lawer o sefydliadau defnyddiol, felly gwiriwch nhw yn gyntaf – neu fel arall, ewch i…
CEOP Safety Centre for reporting incidents
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Partneriaid Ariannu


