Secstio

Secstio ydi anfon neges destun, llun neu fideo rhywiol at rywun arall. Gyda’r ffordd rydym ni’n defnyddio’r rhyngrwyd a gwefannau dod o hyd i gariad, nid pobl ifanc yn unig sy’n anfon lluniau ohonyn nhw eu hunain.

Ond pam bod hyn yn broblem ymhlith pobl ifanc?

Mae cyfraith y Deyrnas Unedig yn dweud nad ydych chi’n oedolyn hyd nes eich pen-blwydd yn 18 oed. Efallai bod hyn yn swnio’n rhyfedd oherwydd eich bod chi’n gallu gyrru car, ymuno â’r fyddin a hyd yn oed cael trwydded beilot cyn eich pen-blwydd yn 18. Felly, os ydych chi’n anfon llun, fideo neu neges destun at berson dan 18 oed rydych chi mewn gwirionedd yn ei anfon at blentyn. Os ydi’r unigolyn yn y llun neu’r fideo dan 18 oed yna rydych chi’n anfon llun o blentyn. Mae’r heddlu yn ystyried hyn yn fater difrifol iawn.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Efallai eich bod chi’n credu nad ydi anfon llun at bartner rydych chi’n ymddiried ynddo yn broblem. Ond mae’n rhaid i chi feddwl am oed y person, ac os ydi’r person dan 18 oed yna mae’n well i chi ddileu’r llun, neges destun neu’r fideo yn syth bin. Efallai bod rhai ohonoch chi’n dod i gysylltiad â phobl ar-lein, nad ydych chi’n eu hadnabod, sy’n gofyn am luniau ohonoch chi.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Os oes rhywun yn gofyn am lun ohonoch chi siaradwch efo rhywun, efallai nad ydyn nhw’n dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Fyddwch chi ddim yn mynd i helynt am siarad efo rhywun ac efallai y byddwch chi’n helpu i ddiogelu pobl ifanc eraill. Os oes arnoch chi angen help efo unrhyw beth, ewch i’r Siop Wybodaeth yn Wrecsam neu siaradwch efo gweithiwr ieuenctid neu oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo.

Os ydych chi wedi anfon llun ohonoch chi’ch hun mae yna bethau fedrwch chi eu gwneud. Mae so you got naked online yn adnodd sy’n cynnwys gwybodaeth am yr hyn fedrwch chi ei wneud nesaf. Peidiwch â phoeni, rydym ni i gyd yn gwneud camgymeriadau, ac mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i ddileu’r llun – peidiwch ag anwybyddu hyn, fe allwch chi neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo sortio pethau allan.

Mae gan Childline a think you know gyngor gwych ac mae’r NSPCC yn egluro’r gyfraith mewn mwy o fanylder.

Os ydych chi’n cael eich bwlio ar-lein ewch i adran fwlio’r wefan hon am gyngor a chefnogaeth. Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun, mae yna bobl sy’n gallu’ch helpu.

Gwefannau defnyddiol

Safety Net Kids

Childnet.com

NSPCC

CEOP

Think you know

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham