Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o’n bywydau; dyma ein hoff ddull o gyfathrebu gyda’n ffrindiau a’n perthnasau. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar apiau a gwefannau mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod sut i’w defnyddio’n ddiogel. Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ar sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gywir a sut i gadw’ch hun yn ddiogel ar-lein.

Ydych chi erioed wedi ystyried pa mor rhyfedd yw ein hymddygiad ar-lein?

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae gan y South West Learning Grid adnoddau gwych ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys taflenni ar-lein sy’n cynnwys cyngor da ar osodiadau preifatrwydd a’r pethau na ddylech chi eu datgelu ar-lein.

Ask FM

Facebook

Instagram

Snapchat

Twitter

Fe allwch chi hefyd dderbyn gwybodaeth am breifatrwydd ac enw da a sut mae’r pethau rydych chi’n eu rhoi ar-lein yn gallu effeithio ar eich lle mewn coleg neu brifysgol neu dderbyn swydd yn y dyfodol.

Os ydych chi’n poeni am ffrind ar-lein ewch i wefan Think You Know neu os ydych chi’n poeni am rywun sy’n cysylltu â chi ar-lein neu gynnwys amhriodol rydych chi wedi ei weld ewch i wefan y CEOP.

Pan rydych chi’n gweld y llun hwn, cliciwch i’w riportio!

Gwefannau defnyddiol

Safety Net Kids

Childnet.com

NSPCC

CEOP

Think you know

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham