Contact – Siop Wybodaeth y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol

Mae gofalu am eich iechyd rhywiol yn bwysig; nid dim ond pobl ifanc ddylai feddwl am hyn ond oedolion hefyd.

Gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol yw Contact sydd wedi ei leoli yn y Siop Wybodaeth ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad yn ymwneud ag iechyd rhywiol a pherthnasoedd a gallwn ddarparu gwahanol ddulliau atal cenhedlu gan gynnwys y bilsen bore wedyn, profion beichiogrwydd a chondomau.

Y datganiad cyfrinachedd yn y Siop Wybodaeth yw;

  • Ni fyddwn yn siarad gydag unrhyw un y tu allan i’r prosiect amdanoch chi na’ch ymholiad
  • Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd angen i ni siarad ag asiant arall os oes angen cyngor arbenigol arnoch.  Byddwn bob amser yn gofyn i chi yn gyntaf
  • Weithiau mae’n bosibl y bydd angen i ni gynnwys pobl eraill os ydym o’r farn eich bod chi neu rywun arall mewn perygl difrifol o niwed. Fe all hyn fod yn ymwneud â chamdriniaeth rywiol neu gorfforol neu os yw rhywun yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad.
  • Eto, fe fyddem yn siarad gyda chi’n gyntaf

I gael mynediad i’r gwasanaeth bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru i greu ffeil iechyd ar eich cyfer, bydd hwn yn cynnwys manylion fel eich enw, cyfeiriad, meddygfa neu rywun i gysylltu â nhw mewn argyfwng.

Os ydych o dan 16 oed ac yn poeni am ddefnyddio gwasanaeth iechyd rhywiol yna darllenwch yr erthygl hon.  Mae’r dyfarniad hwn yn achos Gillick yn golygu y gall pobl ifanc o dan 16 oed gael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer dulliau atal cenhedlu cyn belled â bod Canllawiau Fraser wedi eu cwblhau, mae’r rhain mewn grym i sicrhau eich bod yn ddiogel.  Mae’r dyfarniad hwn hefyd yn golygu fod pobl o dan 16 oed yn gallu cael mynediad i wasanaeth iechyd rhywiol heb riant neu warcheidwad gan nad oes angen caniatâd rhiant.

Os ydych yn ystyried dulliau atal cenhedlu mae rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu isod

Oriau agor

Dydd Llun 3pm tan 5.30pm

Dydd Mercher 3pm tan 5.30pm

Dydd Gwener 3pm tan 5.30pm

Mae condomau a phrofion beichiogrwydd ar gael yn ystod oriau agor y Siop Wybodaeth  

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham