Ydych chi’n meddwl fod gennych chi Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol?

Ydych chi’n meddwl fod gennych chi Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol?

Gall rhai heintiau gael eu trosglwyddo i berson arall drwy ryw gweiniol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol. Mae heintiau sy’n cael eu lledaenu fel hyn yn cael eu hadnabod fel heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Mae rhyw diogelach yn cynnwys defnyddio condomau yn gywir bob tro y byddwch yn cael rhyw. Os nad ydych yn defnyddio condom rydych yn wynebu perygl uwch o gael haint a drosglwyddir yn rhywiol. Mae condomau gwrywaidd a benywaidd ar gael.

Nid oes angen i chi gael sawl partner rhywiol i gael haint.

Gellir trin y rhan fwyaf o’r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac fel arfer mae’n well os gellir dechrau’r driniaeth cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn profi unrhyw un o’r canlynol dylech geisio cyngor:

  • Rhedlif anarferol o’r wain
  • Rhedlif o’r pidyn
  • Poen neu losgi pan fyddwch yn pasio dŵr
  • Cosi, brech, lympiau neu bothelli o amgylch yr organau cenhedlu neu’r anws
  • Poen a/neu waedu yn ystod rhyw
  • Gwaedu rhwng misglwyf (gan gynnwys merched sy’n defnyddio atal cenhedlu hormonaidd)
  • Gwaedu ar ôl cael rhyw
  • Poen yn y ceilliau
  • Poen yng ngwaelod yr abdomen
  • Yn aml nid oes symptomau ar gyfer Clamydia

Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom rydych mewn perygl. Gallwch gael gwiriad iechyd gan y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol.

Clinigau Iechyd Rhywiol

Y clinigau iechyd rhywiol yn Wrecsam yw’r Siop Wybodaeth ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae’r Siop Wybodaeth yn darparu cyngor iechyd rhywiol i bobl ifanc 25 oed ac iau ar sail galw heibio. Maent yn cynnig dulliau atal cenhedlu amrywiol megis condomau, y bilsen, brechiad a’r mewnblaniad; nid yw’r Siop Wybodaeth yn profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ond gallwn ddarparu gwybodaeth. Maent hefyd yn cynnig profion Beichiogrwydd, gofynnwch i aelod o staff.

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn cynnig ystod o wasanaethau o brofion ceg y groth, profion beichiogrwydd i’r gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael. Mae’r ysbyty hefyd yn darparu profion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a allai olygu bod angen darparu sampl dŵr, prawf gwaed neu gymryd swab. Ni ellir galw heibio gan y cynhelir clinigau penodol ar ddiwrnodau penodol, felly gwnewch apwyntiad.

Gellir trefnu apwyntiad i dynnu/gosod mewnblaniad.

Clinigau Iechyd Rhyw Cymru 

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham