Gwyliau a Theithio

Mae gwahanol fathau o brofiadau gwyliau a theithio y gallwch ddewis ohonynt. O benwythnos yn gwersylla, pecynnau gwyliau dramor, “inter-railing” o amgylch Ewrop i bagpacio ar draws Awstralia.

Yn dibynnu ar ble rydych yn mynd, efallai bod llawer o wahanol waith cynllunio, pacio a pharatoi cyn eich taith.

Weithiau mae gan wahanol wledydd wahanol gyfreithiau, rheolau a rheoliadau a gofynion fisa o ran teithwyr, felly dylech wirio hyn bob amser cyn mynd.

Gall yr adran hon roi cyngor a gwybodaeth i chi ar wahanol fathau o deithio, sut i gynllunio, beth i fynd gyda chi, sut i reoli eich arian a pha drefniadau y bydd arnoch angen eu gwneud.

Cynllunio

Yoda and some fella with a map for holidays & travelling page

Photo Credit: Reiterlied via Compfight cc

Efallai eich bod eisiau teithio am benwythnos neu am flwyddyn, mynd i ochr arall y byd neu i ochr arall i Gymru, bydd cynllunio’n briodol yn helpu i chi fwynhau eich taith.

Mae gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyngor o ran teithio i 225 gwlad a thiriogaeth o amgylch y byd, mae fan hyn yn lle da i ddechrau.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Mae llawer o lyfrau ac arweinlyfrau teithio (megis Lonely Planet a Rough Guide) y gallwch eu defnyddio i gynllunio lle’r ydych eisiau mynd ar eich gwyliau, a beth fydd arnoch angen eu gwneud cyn mynd yno. Gallant eich helpu i ganfod lleoliadau yr ydych eisiau eu gweld, ac awgrymu amserlen ar gyfer eich taith. Gall gwefannau megis  TripAdvisor a’r awgrymiadau hyn gan Nomadic Matt fod yn ddefnyddiol hefyd.

Cyn i chi wneud hynny, ewch i restr wirio The Mix i wneud yn siŵr bod gennych chi bopeth.

Pasport

Gallwch wneud cais, adnewyddu a diweddaru pasport ar wefan Gov.UK . Mae’n rhaid i chi dalu am basport, ac mae rhai i blant dan 16 oed yn rhatach na phasport llawn i oedolyn, mae prisiau ar gael yma. Mae’r Swyddfa’r Post yn cynnig gwasanaeth gwirio Pasport.

Os yw eich pasbort yn mynd ar goll neu’n cael ei ddwyn dramor, dylech gysylltu â’r Llysgenhadaeth Prydain, Uchel Gomisiwn neu Gonsyliaeth agosaf i gael cyngor.

Mae’n syniad da gwneud llungopi o’r tudalennau llun o’ch pasport, a’i gadw mewn man diogel ar wahân i’ch pasport pan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau.

Fisas

Mae fisa yn ddogfen swyddogol sy’n eich galluogi i deithio i wledydd penodol. Bydd unrhyw fisas a gewch ynghlwm ag un o dudalennau eich pasport.

Visa requirements for UK citizens for Holidays & Travelling page

Image Credit: Twofortnights (Own work) [CC BY-SA 3.0], via Wikimedia Commons

Fel Dinesydd Prydeinig gyda phasport y DU, gallwch fynd i 175 o wledydd a thiriogaeth o gwmpas y byd heb fisa neu gael fisa ar ôl cyrraedd. Gwiriwch y gofynion mynediad y wlad yr ydych yn dymuno ei hymweld ar y dudalen Cyngor ar Deithio Tramor FCO. Gwnewch hyn digon o amser cyn i chi deithio, gan y gallai gymryd amser i gael fisa i rai gwledydd a gall rhai godi tâl am un.

Brechiadau, Iechyd a Diogelwch

Vaccine needle for holidays & travelling page

Photo Credit: Andres Rueda via Compfight cc

Gwiriwch yr adran iechyd y sir yr ydych yn dymuno ei ymweld ar dudalen Cyngor Teithio Tramor FCO ar wybodaeth ar ba frechiadau  y byddwch efallai eu hangen.  Hefyd, ewch i weld tudalen brechiadau teithio NHS Choices i gael rhagor o wybodaeth a beth allwch chi gael am ddim gan y GIG.

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gyflenwadau i fynd gyda chi, a chanfod os allwch gael gafael ar y feddyginiaeth dramor.

Gwneud cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) i sicrhau eich bod wedi cyflenwi ar gyfer unrhyw ddamwain neu salwch tra yr ydych i ffwrdd.

Byddwch yn ofalus gyda’r hyn y byddwch yn bwyta ac yfed, yn arbennig mewn gwledydd poeth. Os ydych mewn gwlad lle nid yw’r dŵr tap yn addas i’w yfed, prynwch ddŵr potel.

Yn olaf darllenwch blog The Mix’s Safety when travelling.

Arian

Euros for money part on Holidays & Travelling

Photo Credit: Images_of_Money via Compfight cc

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol erthygl wych o’r enw  ‘-’Travel money options  cash, cards and travellers cheques <‘. Hefyd, edrychwch ar ein hadran am arian. Yn olaf, mae gan The Mix erthygl o’r enw Travel on a budget.

Yswiriant

Os ydych yn mynd ar eich gwyliau, mae’n bwysig bod gennych yswiriant teithio, fel os bydd unrhyw beth yn digwydd i chi tra byddwch i ffwrdd, ni fydd rhaid i chi dalu am driniaeth feddygol.

Gwnewch yn siŵr bod gennych EHIC <https://www.ehic.org.uk/Internet/startApplication.do> a’i fod yn ddilys pan fyddwch yn teithio yn yr Undeb Ewropeaidd.

Darllenwch Money Advice Service’s Travel Insurance section, yn arbennig ‘Do you need travel insurance?‘ ac ‘Travel insurance – what does a good policy look like?‘.

Cadwch fanylion cyswllt eich cwmni yswiriant a’ch polisi gyda chi, fel y gallwch eu cysylltu yn sydyn mewn argyfwng.

Blynyddoedd Allan

I gael gwybodaeth am gymryd blwyddyn arall, ewch i edrych ar Education – Everything Else. Hefyd, ewch i The Mix’s FAQs on gap years.

Apiau a Gemau

Cyhoeddodd The Guardian erthygl yn ddiweddar ‘10 of the best travel apps … that you’ll actually use‘ tra bo gan TimeOut 50 ap teithio i chi.

Sefydliadau a Dolenni Defnyddiol

Cyngor ar Deithio Tramor Gov.UK

ABTA yw’r gymdeithas deithio fwyaf yn y DU

Interrail.eu yw’r sianel ar-lein ffurfiol ar gyfer tocynnau Interrail

STA Travel yw’r cwmni teithio sydd yn canolbwyntio ar fyfyrwyr a phobl sy’n bacpacio

FitForTravel – Gwybodaeth iechyd teithio i bobl sy’n teithio dramor o’r DU

Globallove Youth Trust yn elusen yng Nghaerdydd sydd yn cynnig cyfleoedd teithio a gwirfoddoli i bobl ifanc

ICS (International Citizen Service) <http://www.volunteerics.org/> yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol i bobl 18-25 oed, wedi’i gefnogi gan lywodraeth y DU.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham