Cyfarfod â’r Eiriolwyr

Lowri

Helo! Lowri ydw i a fi sy’n cydlynu Gwasanaeth Eirioli Ail Lais. Fy swydd i yw paru’r bobl ifanc ag eiriolwr, ond efallai na fydda’ i’n iawn bob tro, felly fe gewch chi ddewis newid eich eiriolwr os hoffwch chi – dim ond gofyn sydd angen i chi.
Rydw i wedi eirioli dros nifer o bobl ifanc yn fy rôl i, ac mae’n rhoi llawer o foddhad i mi pan fyddan nhw’n dweud nad ydyn nhw angen eiriolwr mwyach, gan eu bod yn gallu hunan eirioli. Gall hyn gymryd amser i ddatblygu eu sgiliau drwy adlewyrchu’r eiriolwr, neu i deimlo’n ddigon hyderus i leisio’u barn eu hunain. Rydw i hefyd yn cefnogi’r grŵp cynghori, gan edrych ar gyhoeddusrwydd Ail Lais i wneud yn siŵr ei fod yn gefnogol i bobl ifanc. Maent hefyd yn cyfrannu i wefan gwasanaeth eirioli Ail Lais.

Ro

Helo! Ro ydw i, un o’r eiriolwyr gwirfoddol gydag Ail Lais. Yr hyn rydw i wir yn ei hoffi am fod yn eiriolwr yw cael cefnogi pobl ifanc i gael llais go iawn yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau – yn enwedig pan maen nhw wir yn dylanwadu ar y penderfyniad hwnnw ac yn cael y canlyniad y maen nhw ei eisiau.

 

Jackie

Rydw i wedi bod gydag Ail Lais ers 6 mlynedd bellach. Rydw i’n gweithio yn y siop wybodaeth ac yn gweithio ochr yn ochr ag eiriolwyr eraill. Caiff pobl eu hatgyfeirio wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Rydym yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda siaradwyr gwadd o amrywiol sefydliadau yn trafod pynciau sy’n berthnasol i anghenion pobl ifanc. Mae goruchwylio hefyd yn digwydd yn rheolaidd. Mae’n werth chweil gweld pobl ifanc yn magu hyder ac yn gallu hunan eirioli.

 

 

Andrea

Rydw i wedi bod yn rhan o Ail Lais o’r cychwyn cyntaf. Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cael gafael ar wasanaeth sydd ag eiriolwyr wedi’u hyfforddi i’w cefnogi i leisio’u barn. Mae’n bleser hyrwyddo Erthygl 12 CCUHP, a sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau.

 

 

 

 

Paula

Rydw i wedi bod yn eiriolwr gydag Ail Lais ers nifer o flynyddoedd, yn sicrhau bod pobl ifanc yn cael lleisio’u barn. Heb Ail Lais, ni fyddai dymuniadau na theimladau nifer o bobl ifanc diamddiffyn yn cael eu clywed.

 

 

 

 

 

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham