Cetamin
Pwyntiau Allweddol
Mae Cetamin yn sylwedd powdr gwyn sydd hefyd yn gallu bod mewn ffurf hylif clir neu dabled. Pan mae’n cael ei lyncu mae’n gallu blasu’n eithaf chwerw.
Bydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn snwffian Cetamin mewn ffurf powdr ond mae rhai yn ei chwistrellu.
Rhai enwau stryd cyffredin yw:
- Donkey Dust
- K
- Ket
- Special K
Mae’n cael ei ddefnyddio’n feddygol gan Barafeddygon a Meddygon fel math o esthetig neu boenladdwr i gleifion sy’n dioddef trawma corfforol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan Filfeddygon ar anifeiliaid mawr a bach ar gyfer yr un defnydd.
Mae’n cael ei adnabod fel cyffur datgysylltiol sy’n rhoi profiad allan o’r corff i ddefnyddwyr.
Y Gyfraith
Mae Cetamin yn gyffur Dosbarth B.
Mae’n golygu ei fod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei gyflenwi neu ei gynhyrchu.
Os canfyddir rywun â Cetamin yn ei feddiant, gallant wynebu 5 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.
Gall rhywun sy’n cyflenwi Cetamin wynebu 14 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.
Mae gyrru dan ddylanwad Cetamin yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Os canfyddir chi yn euog o hyn yna gallwch wynebu dirwy drom, eich atal rhag gyrru neu ddedfryd carchar ac o bosibl y tri o’r rhain.
Effeithiau ar y corff a risgiau
Mae cymryd Cetamin yn gallu gwneud i chi deimlo yn:
- Freuddwydiol a datgysylltiol
- Ymlaciol a hamddenol
- Penysgafn a dryslyd
Mae hefyd yn gallu gwneud i chi weld pethau a’ch rhoi mewn rhywbeth a elwir yn “K hole” sy’n fath o “daith” ble rydych yn teimlo eich bod wedi eich datgysylltu o’ch corff a dim rheolaeth dros eich corff na beth sy’n digwydd iddo.
Mae’n cymryd oddeutu 15 munud i gael effaith ar ôl ei snwffian ac mae’n gallu para 30 munud i awr. Mae’n gallu cael ei ganfod yn eich system am tua wythnos.
Y Peryglon
Gan ei fod yn esthetig nid ydych yn teimlo unrhyw boen a phan mae’n cael ei gymysgu gyda sylweddau eraill mae’n gallu bod yn angeuol.
Mae ei effeithiau datgysylltiol yn gallu gwneud i chi deimlo wedi eich parlysu ac felly yn gallu bod yn fregus i ymosodiad, dwyn oddi arnoch neu ymosodiad rhywiol.
Y prif effaith ar y corff a’r prif risg yw’r effaith hirdymor ar y bledren. Mae’n gallu arwain at Syndrom Pledren Cetamin. Dyma pryd mae Cetamin yn llosgi leinin mewnol y bledren sy’n golygu bod angen triniaeth lawfeddygol neu hyd yn oed dynnu’r bledren.
Prif symptomau hyn yw crampiau difrifol a elwir yn “grampiau K” neu waed yn y dŵr.
Dylai defnyddiwr geisio cymorth meddygol ar unwaith ar y pwynt hwn.
Yn ogystal â’r effeithiau a pheryglon corfforol. Mae Cetamin yn gallu gadael defnyddiwr gyda materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder drwy ddibynniaeth a hyd yn oed cyfnodau seicotig oherwydd effeithiau rhithweledol Cetamin.
Gyda holl sylweddau mae yna berygl y gallwch gymryd gorddos a marw.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.