Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn
Pwyntiau Allweddol:
Mae camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn golygu cymryd unrhyw feddyginiaeth mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r cyngor meddygol. Gall camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn gynnwys:
1/ Cymryd meddyginiaeth rhywun arall at ddibenion meddygol neu arall
2/ Cymryd mwy na’r dos a argymhellir
3/ Cymryd meddyginiaeth i “gael anterth” e.e. snwffian meddyginiaethau ADHD
4/ Dweud celwydd wrth feddyg i gael mwy o feddyginiaeth
5/ Cymryd fersiynau “stryd” anghyfreithlon o feddyginiaeth ar bresgripsiwn
Enghreifftiau o feddyginiaethau sy’n cael eu camddefnyddio: Bensodiasepin fel Xanax, Diazepam a Morphine.
Y Gyfraith:
Mae’r gyfraith o ran meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn gymhleth gan fod y meddyginiaethau yn cael eu rhagnodi’n gyfreithlon ond mae eu camddefnyddio yn golygu eu bod yn cael eu dosbarthu fel cyffuriau a gallant amrywio o Ddosbarth C i Ddosbarth A yn dibynnu ar y cyffur. Yn union fel pob cyffur arall, mae’r gyfraith o ran defnydd personol yn wahanol i’r gyfraith o ran cyflenwi. Yn ei hanfod, gall feddu neu ddosbarthu arwain at ddedfryd carchar rhwng 2 i 14 o flynyddoedd.
Effeithiau ar y corff a risgiau:
Gall camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn:
- Arwain at ddos gormodol, yn enwedig os cymerir nhw gydag alcohol neu gyffuriau eraill
- Arwain at ddibyniaeth
- Effeithio ar eich cwsg/trafferthion cysgu
- Newid eich emosiynau/hwyliau
- Achosi nifer o sgil-effeithiau eraill, yn cynnwys gwaethygu materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder
- Achosi difrod i organau hanfodol fel y galon, yr arennau a’r afu