Nos
Pwyntiau Allweddol
Nwy diarogl a di-liw yw NOS y gellir ei anadlu o duniau bach drwy falŵn.
Rhai enwau stryd cyffredin ar gyfer NOS yw:
- ‘Whips’
- Balŵns
- Nwy Chwerthin
- Crac Hipi
Y Gyfraith
Mae NOS yn gyffur Dosbarth C, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei roi i rywun arall neu ei werthu.
Mae ei feddiannu yn gallu arwain at hyd at 2 flynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.
Gallwch gael eich carcharu am hyd at 14 mlynedd a derbyn dirwy ddiderfyn, neu’r ddau, am gyflenwi peth i rywun arall, gan gynnwys eich ffrindiau.
Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Gallwch wynebu dirwy drom, cael eich atal rhag gyrru neu garchar, o bosibl y tri.
Effeithiau ar y corff a Risgiau
Gall NOS wneud i chi deimlo wedi ymlacio ac yn bifflyd yn ogystal â gwneud i ddefnyddwyr deimlo’n benysgafn a/neu’n gyfoglyd. Yn aml, gall defnyddwyr gael cur pen.
Mae’n beryglus anadlu’n syth o’r tun. Gan y gall fod yn anodd penderfynu ar faint o falŵns i’w defnyddio. Gall gormod o ocsid nitraidd wneud i chi lewygu, mynd yn anymwybodol neu fygu. Wrth anadlu unrhyw nwy rydych mewn perygl o rwystro unrhyw ocsigen rhag cyrraedd yr ymennydd, gan achosi niwed i’r ymennydd.
Gall defnydd trwm rheolaidd o ocsid nitraidd arwain at ddiffyg fitamin B12 ac anemia. Gall diffyg B12 difrifol arwain at niwed difrifol i’r nerfau, gan achosi pinnau bach a diffyg teimlad yn y bysedd a’r bysedd traed. Gall hyn fod yn boenus iawn a gwneud cerdded yn anodd. Gall hyd yn oed arwain at barlys, a gall y niwed fod yn barhaol.