Fêps

Pwyntiau Allweddol

E-sigarét sydd â dyfais wedi’i bweru gan fatri sy’n trosi nicotin hylifol yn aerosol (neu anwedd) y mae’r defnyddiwr yn ei anadlu yw fêp. 

Nid yw e-sigaréts yn llosgi tybaco ac nid ydynt yn cynhyrchu tar neu garbon monocsid, dau o’r elfennau mwyaf niweidiol a geir mewn mwg tybaco.

Maent yn gweithio drwy wresogi hylif (o’r enw e-hylif) sydd fel arfer yn cynnwys nicotin.

Rhai enwau stryd cyffredin yw:

  • Barrau Chwythu
  • E-sigaréts
  • Pinnau Fêp
  • Barrau Elf

Mae fêps hefyd yn cael eu cynghori os ydych chi’n ceisio rhoi’r gorau i ysmygu tybaco neu sigaréts gan nad ydynt yn cynnwys y cynhwysion carsinogenig a geir mewn tybaco a sigaréts.

Y Gyfraith

Mae’n anghyfreithlon gwerthu fêps i unrhyw un o dan 18 oed.

Mae’n anghyfreithlon i oedolion brynu fêps i unrhyw un o dan 18 oed.

Yr Effeithiau a’r Risgiau sy’n gysylltiedig â Fêpio

Mae un fêp yn cynnwys cymaint o nicotin â 20 sigarét.  Mae nicotin yn gyffur adfywiol ac mae’n hawdd iawn dod yn gaeth iddo.  Gall caethiwed i nicotin arwain at gur pen, chwydu a phoenau yn y stumog.

Mae caethiwed i nicotin ymysg plant yn effeithio’n ddifrifol ar yr ymennydd a gall arwain at yr ymennydd yn dod yn fwy byrbwyll ac mae’n effeithio ar sgiliau gwneud penderfyniadau. 

Gall symptomau rhoi’r gorau i nicotin ddigwydd o fewn 3 neu 4 awr.  Effeithiau hyn yw anniddigrwydd, anawsterau canolbwyntio a hwyliau isel.

Yn aml, gall methu â rhoi’r gorau iddi arwain at iselder a gall effeithio ar hunan-barch.

Mae llawer o fêps yn cynnwys lefelau uchel o siwgr, mae hyn yn effeithio ar y dannedd a gall arwain at bydredd dannedd, tagu a bod yn fyr o wynt ynghyd â phenysgafnder a dolur gwddf.

NI WYDDWN AM YR EFFEITHIAU HIRDYMOR AR HYN O BRYD. 

Yn y pen draw, os nad ydych chi’n ysmygu, peidiwch â dechrau fêpio!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham