Cocên
Pwyntiau Allweddol:
Mae cocên yn gyffur adfywiol ac nid yw’r effaith yn para’n hir ar ôl ei ddefnyddio, dywedir yn aml ei fod yn gyffur sy’n gwneud i bobl fod eisiau mwy a mwy ohono.
Fel pob cyffur adfywiol, ar ôl ei ddefnyddio bydd cyfnod isel gan eich bod wedi defnyddio eich egni i gyd. Bydd hyn yn gwneud i chi deimlo’n ofnadwy a gall arwain at iselder.
Mae cocên yn cael ei gamddefnyddio drwy ei snwffian, ysmygu neu ei chwistrellu, mae modd ei rwbio ar y deintgig hefyd.
Pan fydd cocên yn cael ei snwffian, fel arfer mae’r cyffur yn cael ei osod ar ddrych, plât neu arwyneb llyfn arall, ei rannu’n ‘linellau’ a’i snwffian drwy’r trwyn gyda gwelltyn, pres papur wedi’i rolio neu ddyfais anadlol arall. Mae cocên yn cael ei amsugno i’r gwaed drwy feinwe’r trwyn. Bydd yr effaith neu’r ‘anterth’ drwy snwffian yn para 15 i 30 munud, ond nid yw’n digwydd mor gyflym ag y mae wrth ei ysmygu neu ei chwistrellu.
Mae effaith cocên yn cael ei ddisgrifio fel ewfforig gyda mwy o egni, llai o flinder, a mwy o ymwybyddiaeth feddyliol. Efallai y bydd y rhai sy’n ei ddefnyddio yn siaradus, yn hwyliog ac yn colli eu chwant am fwyd neu ddim yn teimlo bod angen cysgu arnynt. Mae effaith seicoweithredol a phleserus cocên yn fyr-dymor heb ei gymryd dro ar ôl tro.
Mae enwau stryd yn cynnwys: Chang, Charlie, coke, crack, flake, snow, sniff, pebbles, freebase, toot, wash, rocks, sniff.
Y Gyfraith:
- Mae Cocên yn gyffur Dosbarth A, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei roi i rywun arall neu ei werthu.
- Mae ei feddiannu yn gallu arwain at hyd at 7 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.
- Gallwch gael eich carcharu am oes a derbyn dirwy ddiderfyn, neu’r ddau, am gyflenwi peth i rywun arall, gan gynnwys eich ffrindiau.
Fel gyrru dan ddylanwad alcohol, mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn beryglus ac anghyfreithlon. Os cewch eich dal yn gyrru dan ddylanwad, efallai y cewch ddirwy drom, eich gwahardd rhag gyrru, neu gyfnod yn y carchar.
Effeithiau ar y corff a risgiau:
- Mae cocên yn beryglus i unrhyw un sydd â phwysedd gwaed uchel neu gyflwr ar y galon, ond gall hyd yn oed pobl ifanc sy’n iach brofi ffit, trawiad ar y galon neu strôc ar ôl defnyddio’r cyffur.
- Mae’r perygl o orddos yn cynyddu os ydych chi’n cymysgu cocên gyda sylweddau eraill neu alcohol.
- Dros amser, mae snwffian cocên yn gwneud niwed i’r cartilag yn eich trwyn sy’n gwahanu eich ffroenau. Gall rhai sy’n ei ddefnyddio’n aml golli’r cartilag a dim ond un ffroen fydd ganddynt wedi hynny.
- Gall cymryd cocên pan yn feichiog achosi niwed i’r babi, arwain at golli’r plentyn, esgor yn gynnar a phwysau geni isel.
- Mae ysmygu cocên yn rheolaidd yn gallu achosi problemau anadlu a phoen yn y frest.
- Gall chwistrellu cocên ddifrodi gwythiennau ac achosi briwiau a madredd. Gall rhannu nodwyddau neu offer chwistrellu ledaenu haint HIV a hepatitis hefyd. Mae hefyd yn haws cymryd gorddos wrth chwistrellu cocên.
- Mae defnydd rheolaidd o gocên yn gallu gwneud i bobl deimlo’n:
- isel
- blinedig
- pryderus
- paranoid
Gall cocên ddod â hen broblemau iechyd meddwl yn ôl i’r wyneb hefyd, ac os oes gan berthynas i chi broblemau iechyd meddwl, efallai y bydd mwy o risg ohonynt i chi.