Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn

Pwyntiau Allweddol:

Mae camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn golygu cymryd unrhyw feddyginiaeth mewn ffordd sy’n mynd yn groes i’r cyngor meddygol. Gall camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn gynnwys:

1/ Cymryd meddyginiaeth rhywun arall at ddibenion meddygol neu arall

2/ Cymryd mwy na’r dos a argymhellir

3/ Cymryd meddyginiaeth i “gael anterth” e.e. snwffian meddyginiaethau ADHD

4/ Dweud celwydd wrth feddyg i gael mwy o feddyginiaeth

5/ Cymryd fersiynau “stryd” anghyfreithlon o feddyginiaeth ar bresgripsiwn

Enghreifftiau o feddyginiaethau sy’n cael eu camddefnyddio: Bensodiasepin fel Xanax, Diazepam a Morphine.

Y Gyfraith:

Mae’r gyfraith o ran meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn gymhleth gan fod y meddyginiaethau yn cael eu rhagnodi’n gyfreithlon ond mae eu camddefnyddio yn golygu eu bod yn cael eu dosbarthu fel cyffuriau a gallant amrywio o Ddosbarth C i Ddosbarth A yn dibynnu ar y cyffur. Yn union fel pob cyffur arall, mae’r gyfraith o ran defnydd personol yn wahanol i’r gyfraith o ran cyflenwi. Yn ei hanfod, gall feddu neu ddosbarthu arwain at ddedfryd carchar rhwng 2 i 14 o flynyddoedd.

Effeithiau ar y corff a risgiau:

Gall camddefnyddio meddyginiaeth ar bresgripsiwn:

  • Arwain at ddos gormodol, yn enwedig os cymerir nhw gydag alcohol neu gyffuriau eraill
  • Arwain at ddibyniaeth
  • Effeithio ar eich cwsg/trafferthion cysgu
  • Newid eich emosiynau/hwyliau
  • Achosi nifer o sgil-effeithiau eraill, yn cynnwys gwaethygu materion iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder
  • Achosi difrod i organau hanfodol fel y galon, yr arennau a’r afu
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham