Nos

Pwyntiau Allweddol

Nwy diarogl a di-liw yw NOS y gellir ei anadlu o duniau bach drwy falŵn.

Rhai enwau stryd cyffredin ar gyfer NOS yw:

  1. ‘Whips’
  2. Balŵns
  3. Nwy Chwerthin
  4. Crac Hipi

Y Gyfraith

Mae NOS yn gyffur Dosbarth C, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei roi i rywun arall neu ei werthu.

Mae ei feddiannu yn gallu arwain at hyd at 2 flynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.

Gallwch gael eich carcharu am hyd at 14 mlynedd a derbyn dirwy ddiderfyn, neu’r ddau, am gyflenwi peth i rywun arall, gan gynnwys eich ffrindiau.

Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Gallwch wynebu dirwy drom, cael eich atal rhag gyrru neu garchar, o bosibl y tri. 

Effeithiau ar y corff a Risgiau

Gall NOS wneud i chi deimlo wedi ymlacio ac yn bifflyd yn ogystal â gwneud i ddefnyddwyr deimlo’n benysgafn a/neu’n gyfoglyd.  Yn aml, gall defnyddwyr gael cur pen.

Mae’n beryglus anadlu’n syth o’r tun.  Gan y gall fod yn anodd penderfynu ar faint o falŵns i’w defnyddio.  Gall gormod o ocsid nitraidd wneud i chi lewygu, mynd yn anymwybodol neu fygu.  Wrth anadlu unrhyw nwy rydych mewn perygl o rwystro unrhyw ocsigen rhag cyrraedd yr ymennydd, gan achosi niwed i’r ymennydd.

Gall defnydd trwm rheolaidd o ocsid nitraidd arwain at ddiffyg fitamin B12 ac anemia. Gall diffyg B12 difrifol arwain at niwed difrifol i’r nerfau, gan achosi pinnau bach a diffyg teimlad yn y bysedd a’r bysedd traed.  Gall hyn fod yn boenus iawn a gwneud cerdded yn anodd.  Gall hyd yn oed arwain at barlys, a gall y niwed fod yn barhaol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham