IN2CHANGE – PROSIECT CYFFURIAU AC ALCOHOL POBL IFANC

Mae In2Change yn brosiect cyffuriau ac alcohol cyfrinachol ac am ddim sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 25 ar sail wirfoddol.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o amgylch eu problemau cyffuriau ac alcohol gan ganolbwyntio ar beth rydych yn credu fyddai’n eich helpu chi ar hyn o bryd. Gallwn gwrdd â chi yn y siop INFO, gartref, yn yr ysgol/coleg neu yn y gymuned – lle bynnag rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus. Gallai rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi gynnwys:

  • Gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.

  • Cynyddu eich gwybodaeth am risgiau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.

  • Cefnogaeth i leihau neu roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

  • Cefnogaeth o ran sut mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar eich bywyd.

Gall In2Change hefyd gynnig cefnogaeth o ran addysg, tai, perthnasoedd, cyflogaeth neu waith gwirfoddol, a meysydd eraill o’ch bywyd.  Yn In2Change gallwn hefyd gynnig gweithgareddau i ddifyrru a all helpu i dynnu eich meddwl oddi ar anawsterau presennol neu eu defnyddio fel adnodd cymell.  Mae enghreifftiau’n cynnwys beicio mynydd, aelodaeth campfa am ddim, marchogaeth, teithiau sinema a cherdded.

Os ydych yn credu gall In2Change eich helpu chi ac os ydych am drefnu apwyntiad neu am holi unrhyw beth, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ar y manylion isod.  Os ydych am atgyfeirio eich hun at In2Change neu gael eich atgyfeirio gan brosiect/asiantaeth arall, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar ein tudalen.  

Mae’r rhifau cyswllt ar gyfer ein tîm fel a ganlyn:-

01978 295 629

07800 999 071

07876 657 295

07976 660 531

neu gallwch e-bostio: in2change@wrexham.gov.uk

Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am i 5.00pm


Os hoffech fwy o wybodaeth ar y pwnc hwn neu os oes gennych gwestiynau galwch i mewn i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Instant message.  Os byddwch yn gadael neges i ni byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham