Pwy sy’n cael pleidleisio mewn etholiad?


Mae pwy sy’n cael pleidleisio mewn etholiad yn dibynnu ar ba fath o etholiad ydi hi.


Ar gyfer Etholiadau Cyffredinol y DU (h.y. pleidleisio dros eich Aelod Seneddol) ac Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, rhaid i chi fod:

Yn Etholiadau Senedd Cymru (y Senedd) ac Etholiadau Lleol (Etholiadau’r Cyngor), rhaid i chi fod:

Er mwyn gallu pleidleisio mewn unrhyw fath o etholiad, rhaid i chi fod wedi cofrestru. Yng Nghymru, fe allwch chi wneud hyn pan fyddwch chi’n 14 oed. Gofynnir i chi am eich rhif Yswiriant Gwladol, ond fe gewch chi gofrestru hyd yn oed os nad oes gennych chi un.

Fe allwch chi gofrestru i bleidleisio yma:

TERMAU ALLWEDDOL

  • Etholiad: pan mae pleidlais yn cael ei chynnal ac mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio dros ymgeisydd.
  • Etholiad Cyffredinol: Etholiad y DU ar gyfer Aelodau Seneddol.
  • Cofrestru i bleidleisio: mae bod wedi cofrestru i bleidleisio yn golygu eich bod ar y Gofrestr Etholiadol a’ch bod yn cael pleidleisio mewn etholiadau cymwys.
  • Etholiad y Senedd: Etholiad yng Nghymru ar gyfer Aelodau o’r Senedd.
  • Etholiad Lleol: Etholiad sy’n cael ei gynnal yn eich ardal leol i bleidleisio dros gynghorwyr.
  • Rhif Yswiriant Gwladol: defnyddir hwn i gael gwybodaeth am eich cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol, a gofynnir i chi amdano pan fyddwch chi’n cofrestru i bleidleisio. Rydych chi fel arfer yn cael hwn mewn llythyr yn y post cyn eich pen-blwydd yn 16 oed, ond os na allwch chi ddod o hyd i’r llythyr, mae’r rhif i’w weld ar unrhyw slipiau cyflog neu ffurflenni P60 neu P45 rydych chi wedi’u cael. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi un, fe allwch chi gofrestru hebddo.
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham