Urddas Mislif

Ni ddylai neb gael trafferth i gael gafael ar gynhyrchion mislif hanfodol, a dyna pam ein bod ni yn Wrecsam yn ymrwymo i sicrhau bod y cynhyrchion hyn ar gael yn rhwydd mewn ffordd ymarferol a dignifiedig.

Gyda chefnogaeth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â’r elusen Wings Wrecsam, rydym yn ymdrechu i ddileu tlodi mislif a darparu’r cymorth angenrheidiol i’r rhai mewn angen. Gyda’n gilydd, ein nod yw creu cymuned lle gall pawb reoli eu mislif gyda dignity ac hyder.

Ysgolion

Mae gan bob ysgol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gynnyrch mislif ar gyfer holl ddisgyblion gyda mislif mewn amryw o leoliadau o fewn yr ysgol. 

I wirio gyda’ch ysgol yn uniongyrchol gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt trwy ein rhestr o ysgolion.

INFO

Wedi’i leoli ar Stryt y Lampint yn Wrecsam!

LL11 1AR

Gallwch chi alw i mewn unrhyw bryd o ddydd Llun i ddydd Gwener o 11:30am, mae gennym ni fasgedi yn y man aros a hefyd yn yr ystafell ymolchi, galwch heibio i helpu eich hun!

Canolfannau dosbarthu banc bwyd Wrecsam

Mae’r holl ganolfannau dosbarthu â bocsys cynnyrch glanweithiol am ddim Wings Wrexham:

  • Yr Hwb Lles, Wrecsam, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG 
  • Byddin yr Iachawdwriaeth, Parc Ffordd yr Ardd, Rhosddu, LL11 2NU
  • Capel y Groes, Bodhyfryd, Wrecsam, LL12 7AG
  • Eglwys Sant Marc, Ffordd Bryn Eglwys, Parc Caia, LL13 9LA
  • Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, LL13 7YF
  • Eglwys Annibynnol Gwersyllt, Stryt yr Hôb, Gwersyllt, LL11 4NT
  • Canolfan Hamdden Plas Madoc, Llangollen Rd, Acrefair, LL14 3HL
  • Eglwys Sant Martin, Seithfed Rhodfa, Llai, LL12 0SB

Swyddfeydd Tai

Darperir cynnyrch ym mhob un o’n swyddfeydd ystâd tai lleol.

Lleoliadau eraill

I gael rhestr lawn o lefydd yn Wrecsam gallwch godi cynnyrch misglwyf am ddim, cliciwch ar y ddolen isod! 🙂

Urddas Mislif | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham