Contact – Siop Wybodaeth y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol
Mae gofalu am eich iechyd rhywiol yn bwysig; nid dim ond pobl ifanc ddylai feddwl am hyn ond oedolion hefyd.
Gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol yw Contact sydd wedi ei leoli yn y Siop Wybodaeth ar gyfer pobl ifanc hyd at 25 oed. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad yn ymwneud ag iechyd rhywiol a pherthnasoedd a gallwn ddarparu gwahanol ddulliau atal cenhedlu gan gynnwys y bilsen bore wedyn, profion beichiogrwydd a chondomau.
Y datganiad cyfrinachedd yn y Siop Wybodaeth yw;
- Ni fyddwn yn siarad gydag unrhyw un y tu allan i’r prosiect amdanoch chi na’ch ymholiad
- Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd angen i ni siarad ag asiant arall os oes angen cyngor arbenigol arnoch. Byddwn bob amser yn gofyn i chi yn gyntaf
- Weithiau mae’n bosibl y bydd angen i ni gynnwys pobl eraill os ydym o’r farn eich bod chi neu rywun arall mewn perygl difrifol o niwed. Fe all hyn fod yn ymwneud â chamdriniaeth rywiol neu gorfforol neu os yw rhywun yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad.
- Eto, fe fyddem yn siarad gyda chi’n gyntaf
I gael mynediad i’r gwasanaeth bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru i greu ffeil iechyd ar eich cyfer, bydd hwn yn cynnwys manylion fel eich enw, cyfeiriad, meddygfa neu rywun i gysylltu â nhw mewn argyfwng.
Os ydych o dan 16 oed ac yn poeni am ddefnyddio gwasanaeth iechyd rhywiol yna darllenwch yr erthygl hon. Mae’r dyfarniad hwn yn achos Gillick yn golygu y gall pobl ifanc o dan 16 oed gael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol ar gyfer dulliau atal cenhedlu cyn belled â bod Canllawiau Fraser wedi eu cwblhau, mae’r rhain mewn grym i sicrhau eich bod yn ddiogel. Mae’r dyfarniad hwn hefyd yn golygu fod pobl o dan 16 oed yn gallu cael mynediad i wasanaeth iechyd rhywiol heb riant neu warcheidwad gan nad oes angen caniatâd rhiant.
Os ydych yn ystyried dulliau atal cenhedlu mae rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu isod
- Mae gan Y Gwasanaeth Iechyd gyngor gwych ar ba ddulliau atal cenhedlu sy’n addas i chi.
- Hefyd mae gan Brook wybodaeth ar ddulliau atal cenhedlu a beichiogrwydd
- Mae gan y Gymdeithas Cynllunio Teulu lawer o wybodaeth ar y mathau o ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael.
Oriau agor
Dydd Llun 3pm tan 5.30pm
Dydd Mercher 3pm tan 5.30pm
Dydd Gwener 3pm tan 5.30pm
Mae condomau a phrofion beichiogrwydd ar gael yn ystod oriau agor y Siop Wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.