Mewnfudo a Lloches

Mewnfudo a lloches yw dau o’r materion amlycaf yn y newyddion, mewn gwleidyddiaeth ac ar feddyliau llawer iawn o bobl y dyddiau hyn, yn enwedig gyda’r Argyfwng yn Syria ac  yn dilyn Refferendwm UE 2016

Fel y dywed Wales.com: “Mae Cymru’n rhan o’r Deyrnas Unedig (DU).  Asiantaeth Ffiniau’r DU sy’n gyfrifol am reolaeth holl ffiniau’r DU, gan gynnwys ystyried ceisiadau am ganiatâd i ddod i mewn i, neu aros yn y DU.”

Dyna pam y mae’r dolenni cyntaf yn y rhestr isod yn ymwneud â Llywodraeth y DU.

Noder:  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn  (CCUHP) a chynnal hawliau pobl ifanc yng Nghymru, ac mae’r hawliau yma hefyd yn berthnasol i bobl ifanc sy’n ceisio lloches.  Gallwch ddarllen mwy am CCUHP yn yr Adran CCUHP

Mae  nifer o elusennau a sefydliadau sy’n cynnig help a chefnogaeth i geiswyr lloches, ffoaduriaid a dioddefwyr masnach pobl, a dim ond man cychwyn ydi’r isod y gall eich syniadau a’ch chwiliadau ddatblygu ohonynt…

Cofiwch sgrolio i lawr ddigon pell rhag i chi fethu’r adran am Fasnachu Pobl a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Prif Ddolenni Gwybodaeth Llywodraeth y DU

Gov.uk – Visâu a Mewnfudo – yr holl wybodaeth sydd gan y DU am fewnfudo, fisâu, ymsefydlu yn y DU a mwy.

Gov.uk – Cymorth Ceiswyr Lloches – gallwch wneud cais am Gymorth Ceisiwr Lloches os ydych yn ddigartref neu os nad oes gennych arian i brynu bwyd.

Gov.uk – Llinellau Cymorth Ceiswyr Lloches – gallwch gael cymorth dros y ffôn os ydych yn geisiwr lloches neu’n ffoadur ac angen cymorth am y broses o geisio lloches neu addasu i fywyd yn y DU.

Gov.uk – Gwiriwch os oes arnoch angen fisa  er mwyn ymweld, astudio neu weithio

Gov.uk – Fisâu Myfyrwyr

Prif Ddolenni Gwybodaeth Cymru

Tros Gynnal Plant – Prosiect Fair & Square – Gwasanaeth eirioli a chyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc  rhwng 11-25 sy’n ceisio lloches neu sy’n ffoaduriaid ar draws Casnewydd a Chaerdydd.

Displaced People In Action (DPIA) – Helpu #ffoaduriaid#cheiswyr lloches i integreiddio i’w bywydau newydd yng Nghymru.

 

Cyngor Ffoaduriaid–  elusen sydd ar waith ledled y DU i gynnig cefnogaeth i ffoaduriaid

Cyngor Ffoaduriaid Cymru – “Rydym yn rhoi’r grym i geiswyr lloches a ffoaduriaid adeiladu dyfodol newydd yng Nghymru ac yn helpu i greu cymdeithas lle mae parch a chydraddoldeb o’r pwys mwyaf.”  Maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol a chefnogaeth wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn.

 

Cefnogaeth i Ffoaduriaid – Cymru – Y Groes Goch Brydeinig – Cefnogaeth ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael at wasanaethau hanfodol ac addasu i fywyd yng Nghymru.

Masnachu Pobl a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant

Os bydd rhywun wedi cael eu cludo i’r DU neu Gymru drwy dwyll, orfodaeth neu fygythiad o drais gan unigolyn arall, yna ystyrir eu bod yn ddioddefwr Masnachu Pobl.

Math o gaethwasiaeth modern yw hyn, lle bydd pobl yn cael eu cymryd yn erbyn eu hewyllys, neu drwy dwyll, i wlad arall i gael eu hecsbloetio gan eu carcharor.

Unwaith y bydd y dioddefwyr yn y DU byddant yn cael eu gorfodi i weithio fel gweision neu gaethweision, yn cael eu cam-drin yn rhywiol neu’n cael eu gorfodi i fod yn weithwyr rhyw.

Llinell Gymorth Masnachu Pobl – Byddin yr Iachawdwriaeth –  prif linell gymorth masnachu pobl 24 awr y DU: 0300 3038151.

Poeni am blentyn a allai fod wedi’i fasnachu i’r DU?  Ffoniwch Ganolfan Cyngor am Fasnachu Plant yr NSPCC.

Gwasanaeth Seraf Barnardos Cymru –  ar gyfer plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, neu sy’n cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

 

Angen help i ddeall mwy am fewnfudo a lloches? Edrychwch ar y dudalen hon.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham