Mynd o le i le

Bysus a Threnau

Bysus a threnau yw’r prif fath o gludiant cyhoeddus rhwng llefydd.  Mae gan Wrecsam lawer o fysus yn rhedeg  i lawer o ardaloedd gwahanol, tra bod Trenau Arriva Cymru yn rhedeg y rhan fwyaf o’r trenau. Mae’r ddau yn cynnig teithio gostyngol i bobl ifanc ac mae yna fynhocynteithio  sy’n cynnig gostyngiad teithio ar gludiant cyhoeddus i bobl ifanc 16 – 18 oed ar draws Cymru. Gallwch hefyd brynu’r cerdyn rheilffordd 16-25  sy’n tynnu 1/3 oddi ar bris teithio.

Gwiriwch i weld a ydych yn gymwys i gludiant am ddim i’r ysgol os ydych yn 16+ oed gyda Chyngor Wrecsam

Mae Traveline Cymru yn darparu  gwybodaeth ar gludiant cyhoeddus ar draws Cymru, ac mae Google Maps yn parhau i wella gyda’i wybodaeth am gludiant cyhoeddus.

https://www.thetrainline.com/ yn lle gwych arall i’ch helpu i gynllunio’ch taith reilffordd a chael amseroedd rhedeg trenau byw, hygyrchedd a gwybodaeth am gyfleusterau.​

Mae diogelwch yn bwysig wrth ddefnyddio cludiant yn arbennig os ydych yn teithio eich hun, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod amseroedd cludiant a bod rhywun yn gwybod lle rydych yn mynd.

Cadwch eich eiddo personol gyda chi neu mewn lle diogel tra’n teithio ac os bydd rhywbeth yn mynd ar goll rhowch wybod ar unwaith.

Beicio

Cerdded yw’r modd rhataf o gludiant ac mae’n dda i iechyd fel beicio.  Yn Wrecsam mae gennych Pedal Power ar gyfer llogi beic, hyfforddiant a chyngor, tra bod gan Sustrans Cymru gyngor a llwybrau beicio.

Ydych chi erioed wedi meddwl os ydych yn cael beicio ar y palmant?  Mae Rheol 64 o Reolau’r Ffordd Fawr yn dweud – NA DDYLECH feicio ar y palmant. Mae yno yn amlwg.

Dysgu gyrru

https://youtu.be/KIy5flbtBLU

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Gallwch ddysgu gyrru car yn 17 oed (16 os ydych am yrru moped neu feic cwad ysgafn).

Gallwch wneud cais am drwydded dros dro pan rydych yn 15 oed a 9 mis.

Mae tudalen Dysgu Gyrru Gov.uk  yn cynnwys yr holl wybodaeth rydych ei hangen am brofion, ffioedd, cyfyngiadau oed ac ati.

Mae Cyngor y BBC  hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth a chyngor.

Tacsis

Mae Tacsis yn ffordd wych, gyflym o gludiant os nad oes gennych gar.    Dyma rywfaint o gyngor ar sut i aros yn ddiogel wrth gael tacsi

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu gan gwmni tacsi neu o orsaf tacsis duon.

Mae deilwyr trwydded yn gorfod dangos bod eu cerbyd yn ddiogel i’w ddefnyddio felly peidiwch â mynd i mewn i dacsi nad yw’n edrych yn ddiogel.

Mae gan rai tacsis fesurydd ac eraill ddim, os nad oes ganddynt fesurydd gwnewch yn siŵr eich bod yn cael pris am y siwrnai fel nad ydych yn cael syrpreis drud ar ddiwedd y daith.

Mae’n rhaid i bob tacsi arddangos trwydded – dylai pob gyrrwr tacsi arddangos bathodyn sy’n dangos ei r/rhif trwydded, mae hwn yn cael ei gyhoeddi gan y cyngor lleol fel symbol o ddiogelwch.

Tramiau

Yn anffodus, nid oes gennym dramiau yma, er gwaethaf  y gan ardderchog o Gymru gan y Super Furry Animals…

https://youtu.be/ixCbkXXs21Y

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Dolenni Defnyddiol


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham