Swyddi a Gyrfaoedd

Sgiliau

Rydych yn defnyddio eich sgiliau i berfformio tasgau bywyd bob dydd – mae’n debyg fod gennych chi lawer iawn o sgiliau ‘da chi ddim hyd yn oed yn ymwybodol ohonyn nhw.  Gall darganfod beth ydi eich sgiliau arbennig chi eich helpu chi i feddwl am beth fyddech chi’n hoffi ei astudio yn yr ysgol, yn y Coleg neu’r Brifysgol neu i feddwl pa swyddi fyddai’n eich siwtio chi orau.  Mae meddwl am eich sgiliau yn fan cychwyn da.

Mae gan Gyrfa Cymru adnoddau defnyddiol  e.e. cwis paru swyddi i’ch helpu chi i gael syniad o’r mathau o swyddi fyddai’n eich siwtio chi.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl syniadau am beth fydden nhw’n hoffi ei wneud yn y dyfodol, ond wyddoch chi sut i gael eich swydd ddelfrydol, ydi hynny’n realistig ac a fyddai’r swydd yn eich siwtio mewn gwirionedd?

Mae’n gwbl naturiol bod yn ansicr ynglŷn â pha fath o yrfa fyddech chi’n ei hoffi, yn aml iawn nid eich swydd gyntaf fydd  eich gyrfa yn y pendraw. Gall gymryd amser i ddod o hyd i’ch galwedigaeth ac efallai y byddwch yn newid gyrfa sawl gwaith yn ystod eich oes.

Gall mynd i’r Coleg yn aml eich rhoi chi ar y llwybr cywir ar gyfer gyrfa, mae gan Coleg Cambria gyrsiau gwych.  Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am sut y gall addysg eich helpu chi i gael swydd ewch i’n hadran wybodaeth.

Gwybod beth ‘da chi eisiau ei wneud? Dysgwch fwy am y datblygiadau yn eich hoff ddiwydiant.

Cael Swydd

Mae gwefan Universal Jobmatch yn gan cychwyn da lle gallwch chwilio am swyddi yn eich ardal, a gallwch chwilio Google am swyddi hefyd.

Mae gan Gyrfa Cymru  hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol am gael swyddi a bod mewn cyflogaeth, a gallwch eu ffonio nhw er mwyn iddyn nhw eich cyfeirio chi at ymgynghorydd gyrfaoedd.  Mae ganddyn nhw hefyd wybodaeth am sut i  greu CV.

Mae gan Ymddiriedolaeth y Tywysog wybodaeth am gyfweliadau -mae mynd am gyfweliad yn brofiad sy’n gwneud y rhan fwyaf o bobl yn nerfus dros ben, felly mae’n beth da paratoi er mwyn bod yn barod.

Dyma ychydig o gyngor am chwilio am swyddi

Mae’r rhan fwyaf o swyddi erbyn hyn yn cael eu hysbysebu ar-lein, edrychwch ar y fideo yma am gyngor ar sut i sefydlu presenoldeb ar-lein

Os byddwch angen printio CV neu edrych ar swyddi ar-lein, galwch heibio’r Siop Wybodaeth i siarad efo gweithiwr ieuenctid.

 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham