Gwasanaeth Eirioli Ail Lais
Yn Wrecsam, Cymru a phob man arall yn y DU, mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i leisio eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mewn sawl rhan arall o’r byd, nid oes gan blant a phobl ifanc lais.
Hawliau Plant
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – Erthygl 12 yn nodi fod gan blant yr hawl i ddweud beth y maent yn credu ddylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i sicrhau fod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried.
Os hoffech chi gyflwyno eich safbwyntiau, trafod materion sy’n effeithio arnoch chi, gweler:
Gwasanaeth Eirioli Ail Lais
Weithiau rydym oll angen help i leisio ein barn. Eiriolaeth yw pan fydd rhywun arall yn eich helpu i ddweud eich dweud, helpu i wneud rhywbeth yn iawn, fel gwneud cwyn neu gyflwyno eich ochr chi o’r stori mewn sefyllfaoedd pan fyddwch chi’n teimlo na fedrwch chi wneud hynny. Gallai hyn fod mewn ysgol, yn y cartref, mewn llys – unrhyw le pan fydd dweud eich dweud yn bwysig i chi!
Mae Ail Lais yn brosiect eirioli a sefydlwyd i helpu i sicrhau, pan fydd angen help arnoch i egluro neu gwyno am bethau sy’n bwysig i chi, fod eiriolwr hyfforddedig ar gael i’ch cefnogi.
Beth yw eiriolaeth?
Eich cefnogi chi i leisio eich barn, eich helpu i fynegi eich dymuniadau a’ch teimladau mewn sefyllfaoedd a phenderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi, gan sicrhau eich bod yn ymwybodol o’ch hawliau.
Eiriolwr yw rhywun fydd yn
gwrando arnoch chi
eich helpu i edrych ar eich opsiynau
eich cefnogi i wneud penderfyniad
eich cefnogi i ddweud eich dweud
Ni fydd eiriolwr
yn eich beirniadu
yn dweud wrthych beth i’w wneud
yn siarad ag unrhyw un arall heb eich caniatâd
Mae eiriolwyr wedi cefnogi pobl ifanc i leisio eu barn
yn yr ysgol
yn y cartref
mewn gofal
mewn ysbyty
mewn tai
yn y llys
Gallwch ffonio, e-bostio neu alw draw i’r Ganolfan Wybodaeth i siarad efo eiriolwr
Ffon: 08000322630
E-bost: secondvoice@wrexham.gov.uk
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.