Perthnasau
O ofyn i rywun fynd allan efo chi’r holl ffordd drwodd i briodi, ar y dudalen hon fe gewch wybodaeth a chyngor i’ch cefnogi chi gydag elfen bwysicaf ac o bosibl anoddaf eich bywyd – perthnasoedd.
Mae’n normal ac yn iach i fod eisiau dod o hyd i rywun i fod mewn perthynas efo nhw, i rannu eich amser a’ch profiadau â nhw. Mae pob perthynas yn unigryw a does ‘na ddim brys i fod mewn perthynas cyn i chi deimlo eich bod chi’n barod.
Gall fod yn brofiad gwych ond gall weithiau hefyd fod yn amser dryslyd a phryderus iawn i lawer ohonom. Mae bod efo rhywun yn gofyn am barch, cyfaddawdu a siarad am ein teimladau. Weithiau mae’n hawdd anghofio faint o amser, amynedd ac ymrwymiad sydd ei angen i wneud i berthynas weithio.
Mae gennych hawl i wneud dewisiadau yn eich perthnasoedd a ddylech chi ddim cael eich rhoi dan bwysau i ruthro i mewn i unrhyw beth. Cofiwch, eich teimladau chi ydi’r peth pwysicaf ac os ydych yn teimlo fod arnoch angen help a chyngor, cofiwch fynd at rywun yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw i siarad am eich pryderon.
Dolenni Defnyddiol
Mae gan Brook.org.uk lawer iawn o wybodaeth am berthnasoedd, gan gynnwys:
Mae The Mix yn safle arall gyda thoreth o wybodaeth ac erthyglau am berthnasoedd, gan gynnwys:
- Detio ar-lein yn ddiogel
- Anrhywiol ac Mewn Cariad
- Sut y gwnes i ddianc o fy mhriodas orfodol
- Dwi’n caru fy ffrind gorau
- Fflyrtio
- Detio ag Anableddau
Mae gan iRelate adrannau am gariadon a pherthnasoedd:
Mae gan Cyngor ar Bopeth hefyd adran am berthnasoedd sy’n canolbwyntio fwy ar y gyfraith a’ch hawliau chi.
Mae gan CLIC Sargent, sy’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc gyda chanser, erthygl ddiddorol ar berthnasoedd a rhyw.
Heb fod eisiau taflu dŵr oer ar bethau, os dydy’ch perthynas chi ddim yn gweithio neu os ‘da chi ddim yn teimlo’n gyfforddus, ewch i’r adran Pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Hefyd, darllenwch yr adran Ffrindiau os ‘da chi eisiau bod yn fwy na ffrindiau efo rhywun…
Help gan Sefydliadau Lleol
Mae croeso i chi alw heibio’r Siop Wybodaeth os fyddwch yn teimlo eich bod eisiau siarad efo rhywun am eich perthynas; mae ‘na weithwyr ieuenctid a chwnsleriaid yn gweithio yno a byddant yn hapus i siarad efo chi.
Help gan Sefydliadau Cenedlaethol
Relate: darparwr cefnogaeth perthnasoedd mwyaf y DU
SupportLine: Sgroliwch i waelod y dudalen hon i weld llinellau cymorth sy’n delio’n benodol â pherthnasoedd.
Cymorth i Ferched Cymru: Yn darparu gwasanaethau’n uniongyrchol ar gyfer merched a phlant sydd wedi, neu sydd yn profi camdriniaeth ddomestig.
The Hideout: yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall beth yw camdriniaeth ddomestig ac i gymryd camau cadarnhaol o ydy o’n digwydd iddyn nhw.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.