Iechyd Rhywiol
Mae’r Siop Wybodaeth yn cynnig gwasanaeth iechyd rhywiol cyfrinachol am ddim i bobl ifanc i fyny at 26 oed.
Rydym yn ofod diogel lle gallwch siarad gyda Gweithiwr Ieuenctid / Nyrs am eich iechyd rhywiol.
Eisiau cofrestru am ddulliau atal cenhedlu am ddim? Galwch heibio! Mae’r broses cofrestru am ddim ac unwaith yr ydych wedi gwneud hynny gallwch dderbyn dulliau atal cenhedlu am ddim i fyny at eich pen-blwydd yn 26 oed!
Mae ein clinig ar Stryt y Lampint yng nghanol y ddinas felly mae edrych ar ôl eich iechyd rhywiol yn haws nag erioed.
Rydym yn wasanaeth galw heibio! Tydi gwneud apwyntiad ddim yn angenrheidiol os ydych eisiau gweld y nyrs. Galwch heibio ar ddydd Llun, Mercher neu Wener o 3:00pm. Yn aml iawn gall clinigau fod yn brysur felly os ydych yn Wrecsam ei hun gallwch ffonio i weld beth yw’r amser aros ar 01978 295600.
Tynnu / Gosod Mewnblaniad: os ydych eisiau trafod neu drefnu i osod/tynnu mewnblaniad byddwch angen archebu apwyntiad gyda nyrs mewnblaniad. Rhowch ganiad i ni ar 01978 295600 neu anfonwch e-bost at infoshop@wrexham.gov.uk i drefnu apwyntiad.
Dulliau atal cenhedlu sydd ar gael y tu allan i oriau clinig
Mae’r Siop Wybodaeth ar agor dydd Llun i ddydd Gwener o 11:30am ac mae Gweithwyr Ieuenctid yn gallu darparu condomau, cynnig profion beichiogrwydd a chyngor ar gyfer beichiogrwydd heb ei gynllunio. Rydym hefyd yn gwneud profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (chlamydia a Gonorrhoea) hyd yn oed os nad oes gennych symptomau a gallwn gynnig triniaeth yma hefyd. Os oes gennych symptomau cysylltwch â’r Clinig Iechyd Rhywiol yn Ysbyty Maelor. Mae’n bosib cael pecyn profi yn y cartref gennym ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol!
Cyngor ar Iechyd Rhywiol a Pherthnasau
Mae Gweithwyr Ieuenctid yn y Siop Wybodaeth ar gael i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych ar iechyd rhywiol a pherthnasau ac rydym yn cynnig gofod diogel heb unrhyw feirniadaeth ac mae croeso i chi ofyn UNRHYW BETH wrthym! Ffoniwch, anfonwch e-bost atom neu galwch heibio 🙂
Mae Nyrsys Iechyd Rhywiol ar gael yn y Siop Wybodaeth (fel y gwelir isod).
Mae’n bosib cael mynediad i’r canlynol yn y Siop Wybodaeth Iechyd Rhywiol:
- Condomau
- Dulliau Atal Cenhedlu
- Dull Atal Cenhedlu Brys
- Mewnblaniad (apwyntiad yn unig)
- Pigiad Depo
- Profion beichiogrwydd
- Patsys
- Atgyfeiriad ar gyfer cwnsela
- Cyngor ar feichiogrwydd heb ei gynllunio
- Atgyfeiriad ar derfynu beichiogrwydd
- Cefnogaeth ac arweiniad ynghylch iechyd rhywiol
- Profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
- Profion HIV
- Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
Cofiwch ni allwn gynnig y coil yn y Siop Wybodaeth ond mae’n bosib siarad gyda’ch Meddyg Teulu neu’r Tîm Iechyd Rhywiol yn Ysbyty Maelor ar y rhif ffôn canlynol:
Rhif ffôn apwyntiadau – 03000 847 662
Dydd Llun i ddydd Gwener – 9.00am – 1.00pm
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu eich bod eisiau siarad gyda rhywun i gael ychydig o sicrwydd yna anfonwch e-bost atom neu galwch heibio os byddai’n well gennych siarad gyda rhywun yn breifat! us a call, send us an email or if you prefer to come in to speak to someone in private, just pop in!
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.