Canabis

Pwyntiau allweddol:

Mae canabis yn gyffur sy’n seiliedig ar blanhigion.  Gellir ei ysmygu, ei fwyta neu ei ddefnyddio fel e-sigaréts.

Gall effeithiau canabis amrywio yn dibynnu ar yr unigolyn.  Mae rhai pobl yn dweud fod cymryd y cyffur yn gwneud iddynt ymlacio a theimlo’n hapus, tra bod eraill yn dweud ei fod yn gwneud iddynt deimlo’n bifflyd a siaradus, ac yn llwglyd.  Ar y llaw arall, gall hefyd wneud i bobl deimlo’n swrth a digymhelliad ac mae rhai pobl yn mynd yn paranoid, yn ddryslyd ac yn bryderus.

Mae canabis yn newid sut yr ydych chi’n meddwl ac mae rhai pobl yn dweud ei fod yn rhoi persbectif a barn wahanol iddynt ar bethau.

Gall hefyd eich gwneud chi’n llwglyd, a elwir yn cael ‘y munchies’, neu wneud i chi deimlo’n sâl, a elwir yn teimlo’n ‘lledwyn’. Gall wneud i chi deimlo’n gysglyd ac fel petai amser yn arafu.

Mae enwau stryd yn cynnwys: Bud, dope, ganja, hash, skunk, weed, pot, puff, herb, resin, skunk, hashish.

Y Gyfraith:

Mae canabis yn gyffur Dosbarth B, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon ei gael yn eich meddiant, ei roi i rywun neu ei werthu.  Mae canabis yn wahanol i gyffuriau Dosbarth B eraill gan ei fod yn dod o dan y cynllun rhybudd yn ôl disgresiwn.

  • Mae ei feddiannu yn gallu arwain at hyd at 5 mlynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn neu’r ddau.
  • Gallwch gael eich carcharu am hyd at 14 mlynedd a derbyn dirwy ddiderfyn, neu’r ddau, am gyflenwi peth i rywun arall, gan gynnwys eich ffrindiau.

Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Os cewch eich dal yn gyrru dan ddylanwad, efallai y cewch ddirwy, eich gwahardd rhag gyrru, neu gyfnod yn y carchar.  Mae hefyd yn bwysig cydnabod, er y gallai unigolyn ifanc fynd i’w gar a gyrru’r diwrnod nesaf, gall y sylweddau barhau i fod yn eich system.

  • Rydych yn meddu ar swm bach o ganabis ac mae at eich defnydd personol eich hun.
  • Hwn yw’r tro cyntaf i chi gael eich dal gyda chyffur anghyfreithlon ac nid oes gennych chi gofnod blaenorol o unrhyw droseddau.
  • Rydych chi’n cyfaddef fod y canabis at eich defnydd personol eich hun yn unig, ac yn cydymffurfio â’r heddlu mewn modd priodol.

Fodd bynnag, os byddai hyn yn digwydd ar adegau eraill, byddai camau gweithredu pellach yn cael eu cymryd gan yr heddlu, ac efallai y bydd dirwyon yn cael eu cyflwyno ac fe allai arwain at gofnod troseddol.

Effeithiau ar y corff a risgiau:

Gall defnyddio canabis:

  • Effeithio ar eich ysgogiad i wneud pethau, ac efallai byddwch yn gweld eich hun yn osgoi pethau.
  • Lleihau cymeriant eich cof fel na allwch chi gofio pethau neu ddysgu gwybodaeth newydd.
  • Effeithio ar eich cwsg/trafferthion cysgu.
  • Newid eich emosiynau/hwyliau, gan ei gwneud yn anoddach i chi wneud pethau.
  • Gwneud i chi weld neu glywed pethau nad ydynt yno (a elwir yn gweld rhithiau neu dan ddylanwad cyffur rhithbair).
  • Achosi oriau (neu ddyddiau) o orbryder, paranoia a gweld rhithiau, sydd ond yn setlo os yw’r unigolyn yn stopio cymryd y cyffur – ac weithiau nid yw’n setlo o gwbl.
  • Cynyddu’r siawns o ddatblygu salwch fel sgitsoffrenia, yn enwedig os oes yna gefndir o salwch meddwl yn y teulu a’ch bod yn dechrau ysmygu yn ystod eich arddegau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham