Ecstasi (MDMA)
Fel rheol mae pobl yn cymryd ecstasi (neu MDMA neu MD) ar ffurf tabled neu bowdr. Hwn ydi ‘cyffur parti’ sawl person ifanc sy’n cymryd cyffuriau ac mae’n eich gadael mewn stad ewfforig, cariadus a hyderus. Ond, yn union fel pob cyffur arall, mae yna beryglon.
Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf mae 40 person y flwyddyn wedi marw ar ôl cymryd y cyffur. Ni allwch fyth fod yn siŵr o gynnwys y dabled neu’r powdr. Dydi rhai pobl ddim gwaeth ar ôl ei gymryd ond, i eraill, mae’r canlyniadau yn gallu bod yn drychinebus. Mae’r cyffur yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.
Os ydych chi’n cymryd y cyffur (hanner tabled ar y tro cofiwch) mae’n hawdd iawn gorboethi a dihydradu. Mi fyddwch chi’n sychedig, ond peidiwch ag yfed alcohol – yfwch ddŵr neu ddiod heb alcohol. Wedi dweud hynny, peidiwch ag yfed mwy na pheint bob awr, mae hyn yr un mor beryglus â pheidio ag yfed digon.
Gall sobri ar ôl cymryd y cyffur fod yn brofiad annymunol iawn, a gall wneud i chi deimlo’n flinedig ac isel iawn. Yn y tymor hir, gall defnyddwyr ddioddef o golli’r cof, iselder a gorbryder.
Mae ecstasi yn gyffur dosbarth A. Os ydych chi’n cael ei dal gydag ecstasi yn eich meddiant gallwch dderbyn hyd at 7 mlynedd yn y carchar. Os ydych chi’n cael ei dal yn cyflenwi’r cyffur, gallwch wynebu hyd at weddill eich oes yn y carchar yn ogystal â dirwy anghyfyngedig.
Wrth reswm, rydym ni’n argymell pobl ifanc i beidio â chymryd unrhyw gyffur ond, os ydych chi yn penderfynu cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor hwn:
- Cymerwch y cyffur mewn lle diogel a chyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw – peidiwch byth â chymryd cyffuriau ar eich pen eich hun!
- Byddwch yn ofalus gyda’r dos
- Rhowch amser i’r cyffur weithio cyn cymryd mwy
- Peidiwch â chymysgu cyffur gydag alcohol neu gyffur arall
- Peidiwch â rhannu offer, hyd yn oed os ydych chi’n snwffian
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.