Troseddau â Chyllyll
BETH YW’R ‘YMGYRCH DECHRAU #SGWRSGYLLYLL’?
Mae’r ymgyrch Dechrau #SgwrsGyllyll wedi’i chreu gan bobl ifanc Senedd yr Ifanc. Nod yr ymgyrch yw dechrau sgwrs am ganlyniadau cario cyllell a sut gall hynny effeithio ar fywyd person ifanc.
BETH YW TROSEDDAU Â CHYLLYLL?
Efallai dy fod di wedi clywed y term ‘troseddau â chyllyll’ yn aml, ond efallai nad wyt ti’n gwybod beth mae’n ei olygu. Troseddau â chyllyll yw troseddau sy’n cael eu cyflawni gan ddefnyddio cyllell neu rhywbeth miniog, a gall hyn gynnwys:
- Trywanu neu fygwth rhywun â chyllell
- Cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da (nid yw hunanamddiffyn yn cael ei gyfrif fel rheswm da)
- Gwerthu cyllell i rhywun dan 18 oed
- Defnyddio cyllell fel arf mewn lladrad neu fyrgleriaeth
BETH YW’R CYFREITHIAU SY’N YMWNEUD Â THROSEDDAU Â CHYLLYLL?
Mae’n anghyfreithlon…
- Cario’r rhan fwyaf o gyllyll yn gyhoeddus, heb reswm da. Galli gario cyllell boced os nad yw’n hirach na 3 modfedd ac nad oes ganddo fotwm, sbring neu glicied i gau’r gyllell (cyllell glo).
- Ymhlith rhesymau da dros gario cyllell, mae gwaith fel gwaith coed, pysgota neu goginio, ond efallai na chaiff hyn ei dderbyn mewn llys. Byddai’n rhaid i ti egluro’r sefyllfa a pham dy fod di’n cario’r gyllell.
- Cario cyllell er diogelwch.
- Cario cyllell ar ran rhywun arall.
- Meddu ar gyllell sydd wedi’i gwahardd, neu werthu cyllell sydd wedi’i gwahardd. Mae rhestr o lafnau sydd wedi’u gwahardd i’w gweld yma.
- Defnyddio cyllell, neu offeryn miniog i fygwth, torri neu drywanu rhywun.
- Gwerthu’r rhan fwyaf o fathau o gyllyll i unigolyn dan 18 oed.
- Hysbysebu neu werthu cyllell mewn modd sydd yn annog ymddygiad treisgar.
Os bydd yr Heddlu yn dy amau di:
- Gall yr Heddlu stopio a chwilio pobl ar y stryd os ydyn nhw’n credu eu bod yn cario arf, cyffuriau neu eiddo sydd wedi’u dwyn.
- Fe ddylai’r heddweision ddweud wrthyt beth yw eu henw, ym mha orsaf heddlu maen nhw’n gweithio a pham eu bod yn dy stopio ac am beth maen nhw’n chwilio. Os nad ydyn nhw mewn gwisg fe ddylen nhw ddangos eu cerdyn adnabod.
- Fe allan nhw chwilio dy ddillad allanol, gofyn i ti dynnu dy gôt, siaced neu fenig i ffwrdd, gofyn i ti droi dy bocedi o chwith neu chwilio yn dy fag.
- Fe ddylen nhw fynd â ti i orsaf heddlu os ydyn nhw’n dymuno chwilio o dan dy ddillad.
- Os byddan nhw’n dod o hyd i unrhyw beth anghyfreithlon, byddi di’n cael dy arestio. Os ddim, byddan nhw’n cofnodi dy fanylion a gadael i ti fynd.
- Cofio! Ni fyddi di mewn trwbl os nad wyt ti wedi gwneud unrhyw beth o’i le, paid â chynhyrfu a bydd yn gwrtais.
- Os nad wyt ti’n cael dy drin yn iawn, galli di gwyno’n uniongyrchol i’r Heddlu neu drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol.
SUT MAE TROSEDDAU Â CHYLLYLL YN EDRYCH YN WRECSAM?
I weld yr ystadegau ar gyfer Troseddau â Chyllyll yng ngogledd Cymru a Wrecsam, galli fynd i wefan Heddlu Gogledd Cymru.
SUT I RIPORTIO TROSEDD Â CHYLLELL
Os yw’n argyfwng, ffonia 999 yn syth.
Os nad yw’n argyfwng, galli roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am drosedd ar eu gwefan neu drwy ffonio 101.
Galli hefyd roi gwybod am drosedd yn gwbl ddi-enw trwy gysylltu â CrimeStoppers neu Fearless ar eu gwefannau neu trwy ffonio 0800 555 111 neu anfon neges destun at 88551.
CANLYNIADAU TROSEDDAU Â CHYLLYLL
Os wyt ti’n cario cyllell heb reswm da, gallet gael hyd at 4 blynedd yn y carchar a dirwy o hyd at £5,000, hyd yn oed os na fyddi di’n ei defnyddio.
Ni fydd dy yrfa yn y dyfodol yn ddiogel. Mae cofnod troseddol yn barhaol a bydd angen i ti ei ddatgelu wrth wneud cais am lawer o swyddi. Gall troseddau treisgar fel troseddau sy’n ymwneud â chyllyll dy atal di rhag cael llawer o swyddi a rhag cael dy dderbyn i’r coleg neu’r brifysgol.
Gallai cofnod troseddol olygu na chei di fyth deithio i rai gwledydd fel Awstralia ac UDA.
P’un a chei di dy ladd neu dy anfon i’r carchar, does dim ots ai’r dioddefwr neu’r ymosodwr wyt ti, bydd yn cael effaith emosiynol ar dy anwyliaid.
Nid oes lle diogel ar y corff i’w drywanu, gall anaf ar fraich neu goes arwain at farwolaeth hyd yn oed.
Mae’n bosibl goroesi ymosodiad â chyllell, ond gall olygu anafiadau oes neu anableddau o ganlyniad.
Mae llawer o bobl sydd wedi bod yn rhan o ymosodiad neu sydd wedi bod yn dyst i ymosodiad yn dioddef trawma meddyliol.
Os wyt ti’n cario cyllell er diogelwch, mae’n golygu ei bod hi 51% yn fwy tebygol y caiff cyllell ei defnyddio yn dy erbyn di.
*Rhowch yr isdeitlau Cymraeg ymlaen os oes angen.
SUT I GADW’N DDIOGEL
SUT I GAEL GWARED AR GYLLELL
Mae’r Heddlu yn annog pobl i gael gwared ar gyllyll mewn biniau amnest. Mae 4 o’r biniau hyn yn lleol, un yng Ngorsaf Heddlu Wrecsam ac un ym mhob un o dair canolfan ailgylchu Wrecsam.
BETH I’W WNEUD OS WYT TI’N MEDDWL BOD RHYWUN YN CARIO CYLLELL
Os wyt ti’n meddwl bod rhywun rwyt ti’n eu hadnabod yn cario neu’n cuddio cyllell, dylet ei riportio. Nid wyt ti’n ‘cario clecs’ nac yn ‘prepian’. Fe allet ti fod yn eu hachub nhw neu rhywun arall rhag cael eu brifo. Galli ei riportio’n gwbl ddi-enw, nid oes angen i neb wybod dy fod wedi eu riportio nhw.
Galli roi gwybod am drosedd yn gwbl ddi-enw trwy gysylltu â CrimeStoppers neu Fearless ar eu gwefannau neu trwy ffonio 0800 555 111 neu anfon neges destun at 88551.
Galli roi gwybod i’r Heddlu trwy ffonio 101.
Os yw’n argyfwng, er enghraifft pan fydd rhywun yn cael ei fygwth neu pan fydd rhywun wedi’i anafu, mae’n rhaid i ti ffonio 999 yn syth.
BETH I’W WNEUD I GADW’N DDIOGEL PAN FYDDI DI ALLAN
Tala sylw! Paid â gwrando ar gerddoriaeth uchel na chael galwad ffôn hir, gwna’n siŵr dy fod di’n gallu clywed pethau o dy gwmpas.
Bydda’n wyliadwrus! Os wyt ti wedi meddwi neu wedi cymryd cyffuriau, rwyt ti’n llai diogel oherwydd byddi di’n llai ymwybodol o’r hyn sydd o dy gwmpas a bydd dy amseroedd ymateb yn arafach.
Bydda’n ddoeth! Paid â denu sylw, a chadwa pethau gwerthfawr fel dy ffôn ac arian yn dy fag neu boced.
Cadwa’n ddiogel! Paid â mynd allan ar dy ben dy hun os yw’n bosibl, neu dylet ddweud wrth rhywun i le’r wyt ti’n mynd. Er enghraifft, rho wybod i ffrind pa ffordd fyddi di’n mynd os wyt ti’n mynd allan i redeg ar dy ben dy hun.
Arhosa’n ddigyffro! Ceisia osgoi gwrthdaro, mae’n well cerdded i ffwrdd na mynd i ddadlau neu ymladd. Ceisia ddweud yn dawel nad wyt ti am ymladd. Gwna’n siŵr nad wyt ti’n edrych yn ymosodol, er enghraifft, paid â phlethu dy freichiau. Mae’n well cael dy alw’n llwfr na chael dy drywanu.
BETH I’W WNEUD OS OES RHYWUN YN DY FYGWTH
Os bydd rhywun yn dy fygwth di gyda chyllell, naill ai drwy ei dangos i ti neu drwy ddweud bod ganddyn nhw un wedi’i chuddio:
- Os galli di, rhed i ffwrdd. Dy ddewis mwyaf diogel yw gadael y sefyllfa.
- Os na alli di adael, ceisia gadw gymaint â phosibl o le rhyngot ti â nhw.
- Ceisia beidio cynhyrfu. Gall fod yn anodd meddwl yn iawn os byddi di mewn panig.
- Os bydd yr ymosodwr eisiau dy ffôn neu arian, rho’r cyfan iddynt. Os ydyn nhw’n barod i gario’r gyllell, maen nhw’n barod i’w defnyddio os na fyddan nhw’n cael beth maen nhw ei eisiau.
- Gwna hi’n amlwg nad wyt ti eisiau ymladd. Paid â gweiddi arnyn nhw na bod yn haerllug, bydd hynny’n eu gwylltio fwy.
- Os oes pobl eraill o gwmpas, gweidda am help. Efallai bydd yr ymosodwr yn dianc rhag ofn i bobl eu gweld.
BETH I’W WNEUD OS BYDD RHYWUN YN CEISIO YMOSOD ARNAT TI
Beth ddylet ti ei wneud os na alli di ddianc? Dydi hi ddim yn hawdd a dydi hi ddim yn sicr, ond os bydd rhywun yn chwifio cyllell atat ti, mae rhai pethau galli di eu gwneud i geisio lleihau’r risg.
- Ceisia aros fwy na hyd braich oddi wrth yr ymosodwr, dal i symud allan o’r ffordd ac osgoi’r ymosodiad.
- Os oes gen ti rhywbeth caled fel llyfr, defnyddia hwn i rwystro’r gyllell.
- Os na alli di redeg, rhwystro neu atal yr ymosodiad (fel a ddangosir yn y fideo isod), tro i’r ochr i osgoi’r llafn.
- Galli geisio cael yr ymosodwr i ollwng y gyllell trwy afael yn eu harddwrn a’i droi neu trwy orfodi eu llaw yn erbyn wal gyda rhywbeth trwm neu gyda dy ben-glin.
*Os wyt ti’n poeni am Droseddau â Chyllyll, galli fynd i ddosbarthiadau hunan-amddiffyn neu grefft ymladd lle bydd hyfforddwr yn dangos i ti sut i amddiffyn dy hun yn hyderus heb arf.
Edrycha ar y fideo i weld rhai technegau hanfodol.
BETH I’W WNEUD MEWN ARGYFWNG
Os wyt ti’n meddwl bod rhywun sydd gyda ti, neu rhywun wyt ti’n ei weld, wedi cael eu trywanu, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym i achub eu bywyd.
Ffonia 999 am ambiwlans.
Mae angen i’r ambiwlans gyrraedd cyn gynted ag sy’n bosibl. Gorau po gyntaf y byddi di’n eu ffonio, er mwyn iddynt gyrraedd yn fuan.
Os yw hi’n ddiogel, cer at y person sydd wedi’i anafu.
Os yw’r ymosodwr yn dal yno, cadw dy hun yn ddiogel a phaid â mynd atynt.
Tynna neu torra unrhyw ddillad sy’n gorchuddio’r clwyf. Os nad oes unrhyw beth ynddo, defnyddia ddarn o ddefnydd fel siaced i roi pwysau ar y clwyf.
Wrth roi pwysau, bydd y gwaedu’n arafu trwy wasgu’r tiwbiau sy’n symud gwaed o amgylch y corff.
Os oes rhywbeth yn y clwyf, fel y gyllell, PAID â’i dynnu. Rho bwysau ar y clwyf o amgylch y gwrthrych, a cheisia beidio gwthio’r gwrthrych ymhellach i mewn i’r clwyf.
Wrth adael gwrthrych yn y clwyf, gall helpu i arafu’r gwaedu trwy weithredu fel plwg ac annog gwaed i geulo.
Gwna nhw’n gyfforddus. Pan nad oes digon o waed yn llifo trwy’r corff, gall y person edrych yn llwyd a theimlo’n oer a phenysgafn. Sioc yw hyn. Er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o sioc:
Rho nhw i orwedd i lawr os nad ydyn nhw’n gorwedd eisoes, a choda eu traed yn uwch na gweddill eu corff. Mae hyn yn helpu’r gwaed i lifo i’w hymennydd a’u calon.
Gorchuddia nhw â chotiau neu flanced i’w cadw nhw’n gynnes.
Cadwa olwg ar guriad eu calon a’u hanadlu, a chysura nhw. Dalia i roi pwysau nes i’r ambiwlans gyrraedd.
FIND MORE INFORMATION AND SUPPORT HERE
Mae gwybodaeth am droseddau ar gael yma yn benodol i bobl ifanc. Mae’r ddolen hon yn mynd â ti i dudalen wybodaeth am Droseddau â Chyllyll a galli hefyd riportio trosedd yn gwbl ddi-enw.
Mae elusen Cymorth i Ddioddefwyr yno i gefnogi pobl sydd wedi profi trosedd. Ni ddylid ei defnyddio mewn argyfwng, ond mae’n darparu cefnogaeth ar ôl i’r digwyddiad fod.
Mae Meic yn llinell gymorth sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Galli gael sgwrs fyw ar eu gwefan, neu eu ffonio neu anfon neges WhatsApp atyn nhw ar 080880 23456, neu galli anfon neges destun atyn nhw ar 07943 114 449.
Mae Ymddiriedolaeth Ben Kinsella yn elusen sy’n mynd i’r afael â throseddau â chyllyll trwy addysg ac ymgyrchu. Fe’i sefydlwyd gan deulu Ben Kinsella a gafodd ei lofruddio mewn trosedd â chyllell yn 2008. Yma mae llawer o wybodaeth am Droseddau â Chyllyll a’u heffaith, gan gynnwys straeon go iawn gan bobl sydd wedi profi trosedd â chyllell, o safbwynt dioddefwr a throseddwr.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn helpu i atal plant a phobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar eu cymunedau. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed, yn ogystal â’u teuluoedd, dioddefwyr a chymdogaethau, er mwyn atal troseddu ac aildroseddu. Eu nod yw helpu i leihau faint o droseddu sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol, ei effaith a’r ofn mae’n ei achosi. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ffonia 01978 298739.
Siop Un Alwad ar gyfer gwasanaethau cefnogi pobl ifanc yn Wrecsam yw’r Siop Wybodaeth. Mae llawer o wasanaethau cefnogi yn seiliedig yma, ond os na allan nhw dy helpu di, gallan nhw dy gyfeirio di a dy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir. Mae’r gwasanaethau sy’n seiliedig yma yn cynnwys Outside In (gwasanaeth cwnsela), In2Change (cefnogaeth cyffuriau ac alcohol), Ail Lais (gwasanaeth eirioli) a Contact (gwasanaeth iechyd rhywiol).
Mae Ambiwlans Sant Ioan yn cynnig llawer o fathau o hyfforddiant cymorth cyntaf. Cer i’r wefan neu cysyllta â CommunityTraining@sjacymru.org.uk i archebu lle.
Mae Childline yn wasanaeth cefnogaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc 18 oed ac iau. Galli gysylltu â nhw trwy eu gwefan neu trwy ffonio 0800 1111.
Galli riportio trosedd yn gwbl ddi-enw trwy CrimeStoppers. Mae llawer o wybodaeth am droseddau a chadw’n ddiogel ar gael hefyd.
If you would like more information on this topic or you have any questions, please contact The Participation Team via telephone (01978298374), email, or social media.