Siop Wybodaeth
Siop Wybodaeth
Mae’r siop wybodaeth yn wasanaeth cyfrinachol sydd ar gael am ddim i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
Gall pobl ifanc alw draw i’r siop am bob math o wybodaeth, o gyngor ariannol i gymorth gyda budd-daliadau.
Yma, gall pobl ifanc ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus i chwilio am swyddi, creu CV a defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae aelodau staff ar gael os byddan nhw angen unrhyw gymorth.
Mae’r staff yno i’ch helpu chi, nid eich barnu chi. Byddwn yn cadw popeth y byddwch chi’n ei drafod â ni yn gyfrinachol, oni bai’n bod yn teimlo eich bod chi neu berson arall mewn perygl o niwed. Os mai dyma’r achos, byddwn yn siarad gyda chi ac yn gadael i chi wybod beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf i’ch diogelu chi. Os hoffech chi gael gwybod mwy am ein polisi cyfrinachedd, holwch aelod o’r staff.
Mae’r aelodau staff yn cynnwys:
Martine Vout: Uwch Ymarferydd (Rheolwr)
Lowri Kendrick: Cydlynydd Ail Lais
ackie Jakisch: Gweithiwr Gwybodaeth Ieuenctid / eiriolwr
Paula Bryan: Gweithiwr Gwybodaeth Ieuenctid / eiriolwr
Mae’r siop hefyd yn gartref i nifer o brosiectau, sy’n ei gwneud yn ‘siop un stop’.
Dyma’r gwasanaethau eraill sydd ar gael:
* Contact, sef gwasanaeth iechyd rhywiol a gynhelir gan weithwyr ieuenctid, meddygon a nyrsys.
* Gwasanaeth Cwnsela Outside In , sef cefnogaeth un i un pan fo pethau’n mynd yn drech na chi a’ch bod angen trafod eich pryderon â rhywun yn gyfrinachol.
* Gwasanaeth Eirioli Ail Lais, os byddwch chi angen lleisio’ch barn.
* In2Change, am gymorth gyda chyffuriau ac alcohol.
* Y Tîm Gadael Gofal, sy’n helpu pobl ifanc mewn gofal.
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Cyswllt: Siop Wybodaeth – Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR
Rhif Ffôn: 01978 295600
Rhif Ffacs: 01978 295608
Cyfeiriad e-bost: infoshop@wrexham.gov.uk
URL y wefan: www.youngwrexham.co.uk
Oriau Agor
Dydd Llun: 11.30 tan 5.30
Dydd Mawrth: 11.30 tan 4.30
Dydd Mercher:11.30 tan 5.30
Dydd Iau: 11.30 tan 4.30
Dydd Gwener: 11.30 tan 5.30
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Urddas Mislif
Ni ddylai neb gael trafferth i gael gafael ar gynhyrchion mislif hanfodol, a dyna pam ein bod ni yn Wrecsam yn ymrwymo i sicrhau bod y cynhyrchion hyn ar gael…