Canllaw Lluniau Wrecsam Ifanc

Frog with camera for TheSprout's Picture Guide

 

Mae’n andros o bwysig defnyddio delweddau yn gywir ar Wrecsam Ifanc ac i gydnabod gwaith caled pobl eraill. Mae hyn gan ein bod wedi derbyn £1000 o ddirwy nôl yng nghyfnod CLICarlein (y bu Wrecsam Ifanc yn rhan ohono unwaith).          Fe uwchlwythodd rhywun o Ferthyr lun oedd yn perthyn i Getty Images ac fe wnaeth ein CMS dynnu’r dyfrnod oddi arno yn awtomatig, felly doedden ni ddim yn gwybod ei fod yn ddelwedd oedd â hawlfraint. Ond roedd Getty’n gwybod, a chyn hir cawsom ddirwy o £1,000.

Felly, mae defnyddio lluniau sydd heb hawlfraint neu luniau ‘Creative Commons’ yn bwysig iawn i Wrecsam Ifanc, achos allwn ni ddim fforddio dirwyon felly.

Mae 4 math o lun y gallwch eu defnyddio ar Wrecsam Ifanc

  1. Lluniau neu ffotograffau yr ydych wedi eu tynnu eich hunain.
  2. Lluniau hyrwydd0 – o dan beth sy’n cael ei alw yn fargen deg gallwn ddefnyddio lluniau fel posteri neu gloriau albymau, os ydych yn adolygu’r ffilm neu’r albwm honno.
  3. Delweddau sydd heb hawlfraint – gall y rhain fod yn lluniau sydd yn y parth cyhoeddus <http://copyrightuser.org/topics/public-domain/> (fel baneri gwledydd), hen luniau y mae’r hawlfraint iddynt wedi dod i ben (os ydych wedi gweld y cardiau cyfarch sydd â hen luniau du a gwyn a sylw gwirion arnynt, yna rŵan rydych chi’n deall pam fod cymaint ohonynt o gwmpas), neu rai lle mae’r crëwr wedi ildio unrhyw hawl hawlfraint ac yn caniatáu defnyddio eu gwaith yn rhydd – fel arfer gellir dod o hyd i’r rhain ar wefannau fel pixabay.com
  4. Delweddau ‘Creative Commons’ – delweddau yw’r rhain lle mae’r crëwr wedi rhoi trwydded ‘Creative Commons’ ar eu gwaith. Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd ydy y gallwch ddefnyddio eu delweddau am ddim cyn belled a’ch bod yn eu cydnabod. Dyma’r mathau o ddelweddau yr ydym wedi eu defnyddio fwyaf ar Wrecsam Ifanc dros y blynyddoedd, ac mae’r rhan fwyaf yn dod o wefan o’r enw www.compfight.com

Beth yw Compfight?

Chwilotwr delweddau yw compfight.com sy’n eich caniatáu i hidlo er mwyn dod o hyd i gynnwys ‘Creative Commons’ ar Flickr. Dechreuwch drwy deipio gair i mewn er mwyn chwilio. Unwaith byddwch wedi chwilio, cliciwch ar ‘Creative Commons’. Byddwch wedyn yn ddiogel i ddewis un o’r delweddau o dan y lein ddotiog i’w defnyddio am ddim ar Wrecsam Ifanc.

Image guide - compfight

Unwaith y byddwch wedi dewis eich delwedd, cliciwch arno a chewch weld meintiau amrywiol y mae modd lawrlwytho’r ddelwedd ynddo. Lawrlwythwch fersiwn fawr ac arbedwch y llun yn rhywle lle gallwch ddod o hyd iddo.  Mae lluniau tirlun a baner yn tueddu i weithio’n well na rhai portread.  

image 2 for TheSprout's picture guide

Mae Compfight yn rhoi arwydd i chi (fel y gallwch gydnabod yr artist ac felly defnyddio’r ddelwedd) y gallwch ei gopïo a’i bastio yn uniongyrchol i mewn i’ch erthygl. Fodd bynnag mae mewn cod HTML felly bydd angen i chi ddefnyddio’r botwm ‘Text’ (nesaf at y botwm ‘Visual’ ar y dudalen ‘Add New Post’ ar y CMS (cornel dde uchaf y ffenest golygu testun).

Er mwyn gosod yr arwydd a ddarparwyd, amlygwch a chopïwch gynnwys y blwch HTML ‘Copy & Paste’ melyn. Yna ewch i nôl yr erthygl yn y CMS a chliciwch ar y botwm ‘Text’ y sonnir amdano uchod. Ewch i waelod yr erthygl neu o dan y llun, pastiwch y cod i mewn, a dyna ni.

Fel arall, os fyddai’n well gennych osgoi unrhyw beth sy’n ymwneud â chod HTML, cliciwch ar y ddelwedd a bydd yn mynd a chi at dudalen Flickr yr artist. Edrychwch yn y gornel dde uchaf am enw’r artist (mae enw defnyddiwr yn iawn), yna ar waelod yr erthygl ysgrifennwch “Delwedd Gan: (enw artist)” a rhowch hyperddolen o dan yr enw er mwyn cysylltu â’r dudalen Flickr.

Beth yw Pixabay a Pixlr?

Os yw hynny yn swnio fel gormod o drafferth defnyddiwch pixabay.com  Mae gan Pixabay lwyth o ddelweddau heb hawlfraint, y gallwch chwilio amdanynt a’u lawrlwytho. Yr unig beth yw, gall pawb arall wneud hyn, ac maent yn tueddu i fod yn weddol gyffredinol.

Ond… gan nad oes hawlfraint arnynt gallwch eu golygu er mwyn edrych yn fwy diddorol.  The original image for the cover picture on this page is from Pixabay. Felly fe wnes i ei lawrlwytho ac yna ei uwchlwytho i pixlr.com a’i droi, rhoi ffilters arno a border.

Gallwch ddefnyddio Pixlr hefyd i newid maint delweddau, gan nad yw CMS yn gallu gwneud hyn yn dda iawn gyda delweddau sydd dros 1000 picsel ond rydym yn ymchwilio i hyn. Rydym hefyd yn ymchwilio Pixabay a Giphy Plug-ins er mwyn gwneud dod o hyd i ddelweddau yn haws, felly cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth.

Uwchlwytho delweddau

image 3 for TheSprout's picture guide

Ar y dudalen ‘Add New Post’ cliciwch ar ‘Add Media’ (cornel chwith uwch ben ffenestr olygu) yna ar ‘Upload Files (1)’ uwchlwythwch y ffeil a phwyswch ‘insert into post’ (2).

Rhaid i chi hefyd osod delwedd nodwedd fel ei fod yn ymddangos yn yr adran newyddion. Mae’r broses fel yr un a ddangosir yn Llun 3, ond defnyddiwch y botwm ar gornel dde isaf y dudalen ‘Add New Post’.

Fideos

Os yw hyn yn swnio fel gormod o ymdrech, defnyddiwch fideos YouTube i dorri’r dudalen i fyny. Pastiwch URL y fideo o’ch dewis chi yn ffenest olygu’r dudalen ‘Add New Page’ a bydd yn cael ei osod yno’n awtomatig. Gan fod y cynnwys yn cael ei gynnal gan YouTube, nhw sydd yn gyfreithiol gyfrifol amdano, nid ni. Mae’r un peth yn gweithio os byddwch yn pastio dolen i ran arall o Wrecsam Ifanc yn y dudalen olygu, bydd yn gosod ei hun yno ac yn edrych yn reit dda.

Datrys problemau

Ychydig o syniadau yn unig am uwchlwytho delweddau i Wrecsam Ifanc yw’r rhain. Mae llwyth o safleoedd ar wahân i Pixabay i ddod o hyd i ddelweddau am ddim arnynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys dolen i le cawsoch hyd iddo yn y disgrifiad yn yr oriel cyfryngau, fel y gall yr is-olygyddion ei wirio’n hawdd.

Ac yn olaf, os nad yw eich delweddau yn uwchlwytho, mae’n debyg eu bod yn rhy fawr – ceisiwch ei lleihau mewn maint i 1000 picsel a dylech fod yn iawn. Gallwch wneud hyn ar pixl Express, Microsoft Paint, Preview, Photoshop, llwyth o lefydd.

 


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham