Bwlio
Cwestiwn: Beth yw bwlio?
Ateb: Gwneud i rywun arall deimlo’n ofnus, yn ddi-werth, unig, euog neu’n drist– waeth a yw wedi gwneud rhywbeth i achosi hynny ai peidio. Mae fel arfer yn digwydd dro ar ôl tro.
Ffaith: Mae’n gallu digwydd ar y cyfrifiadur (seiber fwlio), gartref, ar dy ffôn symudol, yn yr ysgol, yn y brifysgol neu hyd yn oed yn y gweithle.
Bwlio yw pan mae rhywun yn gwneud rhywbeth i dy frifo di, mi allai gynnwys:
Bwlio geiriol sy’n gallu cynnwys galw enwau, pryfocio, gwneud sylwadau sydd ddim yn briodol amdanat ti a gwneud bygythiadau tuag atat ti neu rywun ti’n gofalu amdanyn nhw.
Bwlio cymdeithasol sy’n gallu cynnwys gadael pobl allan o weithgareddau ar bwrpas, dweud straeon wrth bobl eraill amdanat ti neu dy deulu, neu godi cywilydd arnat ti’n gyhoeddus.
Bwlio corfforol sy’n gallu cynnwys dy daro, dy gicio, dy wthio neu boeri arnat ti, mae hyn hefyd yn gallu cynnwys pobl yn malu dy eitemau.
Seiber fwlio yw pan mae pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd, e-bost, gemau ar-lein neu unrhyw dechnoleg i dy frifo, dy bryfocio neu godi cywilydd arnat ti.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Mae pobl yn gallu cael eu bwlio mewn llawer o wahanol ffyrdd, efallai y byddi di wedi cael profiad o un, neu sawl un, o’r rhestr uchod. Mae pobl yn cael eu bwlio am sawl rheswm; y ffordd maent yn edrych, y dillad maent yn gwisgo, tydi rhai pobl ddim yn gwybod pam maen nhw’n cael eu bwlio.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Wyddost ti fod gen ti hawliau? Bod yna gyfreithiau i dy ddiogelu di?
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cofnodi hawliau pob plentyn, mae’r 42 o hawliau’n berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i adael i bobl ifanc fyw bywyd diogel, iach a hapus, un o dy hawliau di yw;
Erthygl 12
Mae gan blant hawl i ddweud beth y maent yn credu dylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i gael ystyriaeth o’u safbwyntiau.
Mae hyn yn golygu bod gen ti hawl i ddweud beth wyt ti’n credu dylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnat ti, ac i gael ystyriaeth o dy safbwyntiau.
Y Gyfraith
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ysgolion gael polisi a gweithdrefn ymddygiad sy’n cynnwys bwlio, mae Adran 89 Deddf Addysg ac Arolygiadau (2006) yn nodi bod yn rhaid i ‘bob ysgol gael mesurau i annog ymddygiad da ac atal pob ffurf ar fwlio ymhlith disgyblion’
Mae polisïau ymddygiad ym mhob ysgol, bydd bwlio naill ai’n cael ei drafod yn y dogfennau hyn neu mewn polisi bwlio unigol, mi ddylai pa un bynnag sydd yn dy ysgol fod ar gael i unrhyw un sy’n gofyn amdanyn nhw. Os wyt ti heb gopi, gofynna yn y dderbynfa, mae’r polisi yn nodi beth fydd yr ysgol yn ei wneud i dy gefnogi di, a’r gweithdrefnau y bydd yn eu cymryd wrth ddelio efo bwlio
Deddf Cydraddoldeb 2010
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae yn erbyn y gyfraith i aflonyddu ar rywun, gwneud iddyn nhw ddioddef neu wahaniaethu yn eu herbyn nhw oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Mae gan ysgolion ddyletswydd gyfreithiol i fodloni telerau’r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae’n rhaid i staff weithredu i atal aflonyddu ar rywun, gwneud i rywun ddioddef a gwahaniaethu yn yr ysgol.
Deddf Hawliau Dynol 1998 Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhestr o bethau mae pobl yn y DU efo hawl iddyn nhw, a beth y mae pob corff cyhoeddus, yn cynnwys ysgolion, yn gorfod dilyn.
Mae’n rhaid i ysgolion gael polisïau sy’n cydymffurfio efo’r Ddeddf, yn enwedig Erthygl 3, sy’n dweud ‘Ni fydd unrhyw un yn cael ei arteithio, neu’n cael cosb neu driniaeth annynol neu ddiraddiol’, os yw ysgolion yn gwybod dy fod yn cael dy drin yn wael, mae’n rhaid iddyn nhw ymyrryd i roi’r gorau iddo.
Cefnogaeth Leol
Os wyt ti’n teimlo bod pobl ddim yn gwrando arnat ti neu ddim yn dy gymryd o ddifrif, mi alli di bob amser ofyn am eiriolwr i dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau. Mae gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais yn annibynnol ar yr ysgol, ac mae’n gallu dy helpu i ddweud beth yw dy ddymuniadau a dy deimladau mewn cyfarfodydd. Mi alli di gysylltu efo Ail Lais dy hun, drwy riant neu drwy athro/athrawes yn yr ysgol.
Ffôn: 01978 295600
E-bost: secondvoiceadvocacy@wrexham.gov.uk
Cefnogaeth Genedlaethol
Mae Childline yn Wasanaeth cwnsela a chyngor dros y ffôn i blant a phobl ifanc sy’n cael eu bwlio neu mewn perygl neu gydag unrhyw broblem arall.
Mae Childnet yn cynnig cyngor a gwybodaeth ar sut i ddiogelu plant rhag risgiau posib ar-lein. www.childnet.com
Mae gan yr NSPCC linell gymorth i unrhyw un, yn cynnwys plant, sy’n dioddef, yn poeni, neu mewn perygl o gamdriniaeth plant.
Canllaw i ddiogelwch y rhyngrwyd a phori ar y rhyngrwyd yn ddiogel i bobl ifanc, wedi’i redeg gan CEOP , Gorchymyn Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol.
Mae Red Balloon yn cefnogi pobl ifanc sydd ddim yn cynnwys eu hunain mewn gweithgareddau, neu sy’n unig yn yr ysgol oherwydd bwlio neu drawma arall.
Sefydliad sy’n cynnig cyngor ar bob agwedd o fwlio yw bullying.co.uk
Mae Meic Cymru yn wasanaeth llinell gymorth a gwybodaeth ac fe allwch gysylltu os ydych angen siarad â rhywun am unrhyw sefyllfa.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.