Cyffuriau Ac Alcohol

Os oes gennych unrhyw faterion, ymholiadau neu bryderon ynglŷn â defnyddio cyffuriau neu sylweddau yna gallwch gysylltu â Phrosiect Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc In2change.

Neu mae yna wefannau gwych a llinellau cymorth all roi gwybodaeth i chi ar gyffuriau a sylweddau.

Gwasanaethau Cefnogi Cenedlaethol

TalktoFrank – Mae’r Gwasanaeth Addysgu am Gyffuriau Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth cynghori cyfrinachol ar gyffuriau.  Mae’n cynnig llawer o wybodaeth ar sylweddau (gan gynnwys rhai newydd), mae’n dweud wrthych beth yw’r peryglon, sut y gallwch aros yn ddiogel a beth i’w wneud os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch.   Neu gallwch ffonio 03001236600.  Mae’n bosibl i chi gael sgwrs fyw ar y wefan rhwng 2pm-6pm

Llinell gymorth yng Nghymru yw DAN 247, llinell gymorth 24 awr ar gyffuriau ac alcohol a gellir cysylltu â hwn drwy Radffôn: 0808 808 2234 neu drwy anfon neges destun gyda’r gair DAN i: 81066

Gwefan i helpu i wrthsefyll camdriniaeth alcohol a chyffuriau yw Mentor.org.

Canabis

 

Y CYFFUR ANGHYFREITHIOL SY’N CAEL EI DDEFNYDDIO FWYAF YN Y DEYRNAS UNEDIG – OND COFIWCH, DIM POB PERSON IFANC SYDD YN EI DDEFNYDDIO.

Hwn ydi’r cyffur anghyfreithlon sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf gan bobl ifanc ac mae ganddo sawl enw, gan gynnwys grass, ganja, skunk a weed. Mae pobl ifanc yn cymryd canabis drwy ei ysmygu gyda thybaco a gwneud sigarét o’r enw joint neu ddefnyddio potel blastig i wneud bong. Mae pobl ifanc hefyd yn defnyddio canabis i wneud cacennau ‘gofod’.

Pam bod pobl ifanc yn cymryd canabis medde chi? Yr ateb yn syml ydi i gael hwyl, ymlacio, i deimlo’n benfeddw ac i anghofio am bethau. Fe allwch chi deimlo’r holl bethau yma ond mae pobl ifanc hefyd yn sôn am deimlo’n lledwyn pan fyddan nhw wedi cael gormod o ganabis neu wedi yfed alcohol neu heb fwyta llawer cynt. Pan fyddwch chi’n teimlo’n lledwyn does arnoch chi ddim eisiau siarad, rydych chi’n chwysu ac yn teimlo’n oer ac yn llaith, ac weithiau byddwch chi’n chwydu. Yn aml iawn bydd eich ffrindiau yn tynnu lluniau ohonoch chi ac yn eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae pobl ifanc hefyd yn sôn am gael pen mawr y diwrnod wedyn a theimlo’n ansicr ynghylch pethau. Mae hynny hefyd yn gwneud i chi deimlo’n ddiymdrech a swrth, a gall cymryd canabis yn rheolaidd arwain at ddiffyg cymhelliant sy’n effeithio ar eich bywyd teuluol, ysgol a gwaith.

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae canabis wedi mynd yn gryfach ac yn gryfach, a’r hyn sy’n bryder mawr i ni ydi’r paranoia a’r gorbryder y mae pobl ifanc yn dweud wrthym ni amdano pan fyddan nhw’n cymryd canabis. Mae’r paranoia a’r gorbryder hwn yn gallu achosi llawer o broblemau, fel colli cof a phyliau o banig. Mae pobl sy’n cymryd canabis hefyd yn pellhau oddi wrth ffrindiau nad ydyn nhw’n ysmygu canabis.

Mae cymryd canabis am fisoedd lawer yn cynyddu’r perygl o gyfnodau seicotig fel sgitsoffrenia ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd hyn.

Yn olaf, mae llawer o bobl ifanc yn credu bod defnyddio canabis yn gyfreithlon. Dydi hyn ddim yn wir. Mae’n gyffur dosbarth B sy’n gallu arwain at ddelio gyda’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid neu, yn dibynnu ar eich oed, at Hysbysiad Cyhoeddus am Anhrefn. Gallwch dderbyn 5 mlynedd o garchar am feddiant ac 14 mlynedd am gyflenwi.

 

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, sef gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.

Defnyddio Canabis

Yn In2change rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan godi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau defnyddio Canabis.  Mae llawer o fythau yn cael eu cylchdroi yn ymwneud â defnyddio canabis.  Dyma fideo y mae In2change yn ei ddefnyddio i ddangos yr effeithiau byrdymor a hirdymor o ddefnyddio canabis.  Gyda diolch i Mac.org.uk.

http://www.mac-uk.org/cannabis-film/

Alcohol

Yn In2change (dolen i’r dudalen) rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan godi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau defnyddio alcohol.

Dyma rai o’r ffeithiau diweddaraf a’r risgiau yn ymwneud â defnyddio alcohol.

Sicrhewch eich bod yn cael yr apiau rhyngweithiol i ddysgu mwy am effeithiau alcohol a sut y gall effeithio ar eich bywyd.

https://www.drinkaware.co.uk/tools/app/

Sbeicio Diodydd

Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar y peryglon o sbeicio diodydd alcoholig a’r risgiau o brofi hynny’n digwydd i chi.  Gwyliwch y fideo yma.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Alcohol a Hyder?

Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar beth all ddigwydd pan fo pobl ifanc yn yfed alcohol i gynyddu eu hyder.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Alcohol a Straen!

Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar beth all ddigwydd pan fo pobl ifanc yn yfed alcohol i gael gwared ar straen.

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Risgiau a Chanlyniadau

Yn In2change rydym yn defnyddio’r fideo hwn i dangos i bobl ifanc y risgiau a’r canlyniadau o ddefnyddio alcohol.  Gyda diolch i Ganolfan Lifeline Blackburn

Ymwadiad.

Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.

Ecstasi (MDMA)

 

 

Fel rheol mae pobl yn cymryd ecstasi (neu MDMA neu MD) ar ffurf tabled neu bowdr. Hwn ydi ‘cyffur parti’ sawl person ifanc sy’n cymryd cyffuriau ac mae’n eich gadael mewn stad ewfforig, cariadus a hyderus. Ond, yn union fel pob cyffur arall, mae yna beryglon.

Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf mae 40 person y flwyddyn wedi marw ar ôl cymryd y cyffur. Ni allwch fyth fod yn siŵr o gynnwys y dabled neu’r powdr. Dydi rhai pobl ddim gwaeth ar ôl ei gymryd ond, i eraill, mae’r canlyniadau yn gallu bod yn drychinebus. Mae’r cyffur yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.

Os ydych chi’n cymryd y cyffur (hanner tabled ar y tro cofiwch) mae’n hawdd iawn gorboethi a dihydradu. Mi fyddwch chi’n sychedig, ond peidiwch ag yfed alcohol – yfwch ddŵr neu ddiod heb alcohol. Wedi dweud hynny, peidiwch ag yfed mwy na pheint bob awr, mae hyn yr un mor beryglus â pheidio ag yfed digon.

Gall sobri ar ôl cymryd y cyffur fod yn brofiad annymunol iawn, a gall wneud i chi deimlo’n flinedig ac isel iawn. Yn y tymor hir, gall defnyddwyr ddioddef o golli’r cof, iselder a gorbryder.

Mae ecstasi yn gyffur dosbarth A. Os ydych chi’n cael ei dal gydag ecstasi yn eich meddiant gallwch dderbyn hyd at 7 mlynedd yn y carchar. Os ydych chi’n cael ei dal yn cyflenwi’r cyffur, gallwch wynebu hyd at weddill eich oes yn y carchar yn ogystal â dirwy anghyfyngedig.

Wrth reswm, rydym ni’n argymell pobl ifanc i beidio â chymryd unrhyw gyffur ond, os ydych chi yn penderfynu cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor hwn:

  • Cymerwch y cyffur mewn lle diogel a chyda phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw – peidiwch byth â chymryd cyffuriau ar eich pen eich hun!
  • Byddwch yn ofalus gyda’r dos
  • Rhowch amser i’r cyffur weithio cyn cymryd mwy
  • Peidiwch â chymysgu cyffur gydag alcohol neu gyffur arall
  • Peidiwch â rhannu offer, hyd yn oed os ydych chi’n snwffian

 

 

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.

LSD

 

Pan fyddwch chi dan ddylanwad LSD neu ‘asid’, cyffur rhithbair cryf iawn, mae’ch canfyddiad o’r hyn rydych chi’n ei weld a’i glywed yn newid ac mae lliwiau a goleuadau yn llachar iawn a’ch synhwyrau yn cryfhau.

Trip ydi’r gair sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer bod dan ddylanwad LSD ac fel pob cyffur arall mae yna beryglon sylweddol ynghlwm wrth ei gymryd. Gall yr hyn sy’n digwyddi i chi ar ôl cymryd LSD ddibynnu ar eich hwyliau ar y pryd. Dydych chi ddim yn gallu dweud pa mor gryf ydi’r cyffur na than bryd y bydd yr effeithiau’n para (rhwng 5 a 12 awr) felly, os ydych chi mewn hwyliau drwg pan rydych chi’n cymryd y cyffur, mae’n bosibl y bydd y profiad yn un annymunol iawn na fedrwch chi ei reoli.

Gall LSD hefyd sbarduno problemau iechyd meddwl difrifol nad ydych chi wedi derbyn diagnosis ar eu cyfer.

Os fyddwch chi byth mewn sefyllfa lle rydych chi neu’ch ffrindiau wedi cymryd LSD ac yn profi effeithiau negyddol, gwnewch yn siŵr eich bod chi mewn lle tawel lle rydych chi’n teimlo’n saff a chyda cwmpeini.

Mae LSD yn gyffur dosbarth A ac os cewch chi’ch dal gyda’r cyffur yn eich meddiant gallwch wynebu hyd at 7 mlynedd o garchar. Os cewch chi’ch dal yn cyflenwi yna fe allwch chi gael eich dedfrydu i garchar am oes a gorfod talu dirwy.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham