Alcohol

Pwyntiau Allweddol

Mae alcohol yn dod mewn amrywiaeth eang o ddiodydd ac mewn amrywiaeth o gryfderau, lliwiau a blasau. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ddiodydd alcoholig nodi cryfder yr Alcohol yn y ddiod.

Yr enw gwyddonol ar Alcohol yw ethanol. Argymhellir bod oedolion yn ceisio cadw at yfed dim mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos.  Dylid gwneud hyn dros gyfnod o 3 diwrnod neu fwy yn hytrach na chadw’r unedau i’w hyfed i gyd mewn 1 diwrnod. Mae uned yn fesuriad sy’n egluro faint o Alcohol pur sydd yn y ddiod. Er enghraifft, can 500cl o gwrw 4% = 2 uned.

Mae bwyta pryd bwyd sylweddol cyn yfed llawer iawn o Alcohol bob amser yn syniad da yn ogystal ag yfed diodydd meddal ac Alcohol am yn ail yn ystod noson allan.

Y Gyfraith

Mae’n erbyn y gyfraith i unrhyw un dan 18 brynu Alcohol mewn tafarn, bar, siop ddiodydd drwyddedig, archfarchnad neu ar-lein.

Mae’n rhaid i blant 16 mlwydd oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn mewn tafarn neu far. Gall yr heddlu fynd ag Alcohol oddi ar rywun y maen nhw’n amau sy’n yfed dan 18 mlwydd oed.

Mae’n anghyfreithlon i oedolyn brynu alcohol i rywun dan 18 oed, ar wahân i pan fo’r unigolyn hwnnw’n prynu cwrw, gwin neu seidr i rywun dan 16 neu 17 i’w yfed â phryd bwyd yng nghwmni unigolyn dros 18 oed.

Mae gyrru dan ddylanwad Alcohol yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Os canfyddir chi yn euog o hyn, gallwch chi gael dirwy drom, eich atal rhag gyrru neu ddedfryd o garchar ac o bosibl y tri o’r rhain.

Effeithiau ar y corff a Risgiau

Gall yfed alcohol gael yr effeithiau canlynol arnoch chi:

  • Eich gwneud chi’n flinedig
  • Eich gwneud chi’n benysgafn
  • Eich gwneud chi’n gyfoglyd
  • Colli rheolaeth ar weithrediadau’r corff, fel cerdded
  • Lleferydd aneglur
  • Newid eich emosiynau, er enghraifft mynd yn emosiynol neu’n flin

Mae yfed llawer iawn o Alcohol yn gallu eich gwneud chi i chwydu ac achosi salwch bore drannoeth. Gall hyn ddatblygu’n gur pen o ganlyniad i ddiffyg hylif.

Y Peryglon

Mae sawl perygl corfforol a meddyliol yn gysylltiedig â goryfed neu yfed Alcohol yn rheolaidd.

O ganlyniad i’r ffaith bod Alcohol yn gallu amharu ar weithrediad echddygol fel cerdded a chydsymud, mae llawer o anafiadau yn ymwneud ag Alcohol yn digwydd o ganlyniad i bobl yn baglu a chwympo neu hyd yn oed o ymosodiadau corfforol.

Gall effeithiau corfforol hirdymor yfed yn rheolaidd ac yn ormodol gynnwys colli celloedd yr ymennydd, methiant yr afu, wlserau’r stumog, rhai mathau o ganser, trawiad ar y galon, epilepsi, magu pwysau (mae can cryf o lager yn cynnwys yr un faint o galorïau â bar siocled Mars), problemau â’r croen – pan fo’r afu wedi’i niweidio, ni all brosesu fitaminau yn eich corff.

Yn y tymor byr, mae Alcohol yn effeithio ar eich hwyliau (gall deimlo fel pe bai’n eich gwneud chi’n hapus i ddechrau ond mae’n dawelyn), posibilrwydd o wenwyn alcohol (mae lefel yr alcohol yn eich gwaed chi’n codi mor uchel, gallwch chi fynd yn anymwybodol, mynd i mewn i goma neu waeth), chwydu, gall wneud i chi deimlo’n flinedig neu i’r gwrthwyneb, yn ddryslyd ac achosi golwg aneglur.

Mae’n hawdd gadael i’ch arferion yfed fynd dros ben llestri a gall hyn arwain yn y pen draw at fynd yn gaeth i alcohol, dibyniaeth ac Alcoholiaeth. Mae eich goddefiad yn cynyddu po fwyaf y byddwch chi’n yfed ac felly mae angen mwy o Alcohol arnoch chi i gael yr un effaith.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham