LSD

Pan fyddwch chi dan ddylanwad LSD neu ‘asid’, cyffur rhithbair cryf iawn, mae’ch canfyddiad o’r hyn rydych chi’n ei weld a’i glywed yn newid ac mae lliwiau a goleuadau yn llachar iawn a’ch synhwyrau yn cryfhau.

Trip ydi’r gair sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer bod dan ddylanwad LSD ac fel pob cyffur arall mae yna beryglon sylweddol ynghlwm wrth ei gymryd. Gall yr hyn sy’n digwyddi i chi ar ôl cymryd LSD ddibynnu ar eich hwyliau ar y pryd. Dydych chi ddim yn gallu dweud pa mor gryf ydi’r cyffur na than bryd y bydd yr effeithiau’n para (rhwng 5 a 12 awr) felly, os ydych chi mewn hwyliau drwg pan rydych chi’n cymryd y cyffur, mae’n bosibl y bydd y profiad yn un annymunol iawn na fedrwch chi ei reoli.

Gall LSD hefyd sbarduno problemau iechyd meddwl difrifol nad ydych chi wedi derbyn diagnosis ar eu cyfer.

Os fyddwch chi byth mewn sefyllfa lle rydych chi neu’ch ffrindiau wedi cymryd LSD ac yn profi effeithiau negyddol, gwnewch yn siŵr eich bod chi mewn lle tawel lle rydych chi’n teimlo’n saff a chyda cwmpeini.

Mae LSD yn gyffur dosbarth A ac os cewch chi’ch dal gyda’r cyffur yn eich meddiant gallwch wynebu hyd at 7 mlynedd o garchar. Os cewch chi’ch dal yn cyflenwi yna fe allwch chi gael eich dedfrydu i garchar am oes a gorfod talu dirwy.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.

 


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham